Blwyddyn adfydus a gawsai Siôn Ifan: yr arwaf, fe dybiai, a fu ar ei ben o'r dydd yr ymgymerodd gyntaf â thorri syched cymdogion o dan arwydd y Cwch. Ond wedi ystorm a blinfyd daethai haul ar fryn eilwaith, a llawenhai Siôn Ifan er mai haul ei hydref oedd.
Un achos llawenydd neilltuol iddo oedd bod ei fab hynaf wedi llwyr ymwadu â'i hen anwadalwch, ac yn awr yn mynd i briodi. Yr oedd Catrin Parri hefyd yn falch ryfeddol o hynny, yn enwedig gan mai Nanni oedd y wraig i fod. A pha wythnos o'r flwyddyn, o ddechrau Ionawr i ddiwedd Rhagfyr a fuasai hanner mor gymwys fel amser priodi ag wythnos yr ŵyl? Yr adeg honno byddai ardal gyfan yn fwy na pharod i gydlawenhau. A dyna mewn rhan paham y trefnwyd priodas Dic y diwrnod o flaen yr ŵylmabsant. Gwnaed Tafarn y Cwch yn dŷ gwledd y diwrnod hwnnw.
Daeth priodas Dic yn fath o arwyddlun ymysg ei gymdeithion o ddiwedd un oruchwyliaeth a dechrau un newydd. Ef a fu'n ddolen gydiol, fel petai, rhwng arweinwyr y fintai â bechgyn tawelach y fro. Ond daethai amser dewis llwybrau, ac ymwrthod a wnaeth Dic â ffyrdd a llwybrau Wil a Robin, ac felly'r ardal hefyd, gan ddewis yn hytrach ymwadu â'r hen fywyd. yn ei holl agweddau na cherdded ffordd y gwaed. Dyna paham y peidiodd y fintai â bod.
Dichon mai naturiol iawn y diwrnod hwnnw oedd i ddychymyg pawb yno ehedeg oddi wrth fwrdd llawen y wledd i brif dre'r sir, ac i'r carchar lle'r eisteddai Wil yn disgwyl am y bore oedd i roddi terfyn sydyn ar ei holl oruchwyliaethau daearol ef. Ond nid oedd y gronyn lleiaf o gydymdeimlad ag ef, mwy na Robin, ym mynwesau'r rhai oedd wedi cydweithio â'r ddau yn yr amser a fu. Ac ni soniwyd gair amdanynt drwy gydol y dydd.
Ddiwrnod y briodas yr oedd y Wennol wrth angor yn afon Cymyran, ac yn chwifio baner i ddathlu'r uchelwyl. Ond yr oedd Huw Bifan a'i griw bron i gyd ar y lan ers oriau, ac yn Nhafarn y Cwch, â'u llygaid