Tudalen:Madam Wen.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr oedd yno liaws eraill, a'u cariad diwyro tuag ati wedi gwreiddio'n ddwfn mewn cyfnod a aeth heibio wedi ffynnu trwy flinfyd a thrwy wynfyd blynyddoedd ac yn awr yn derbyn y wobr uchaf wrth ei gweled hi yn wraig ddedwydd un o wŷr unionaf a thirionaf y wlad. Yng ngolwg y rhai hyn yr oedd ei briodas wedi gosod mwy o urddas ar Morys mewn un awr na holl dras a bonedd y Chwaen.

Wrth syllu arni, a gweled fel yr addurnai ei chylch newydd, diau i lawer atgo o'r dyddiau a fu wibio drwy eu meddyliau. Ond dyma Siôn Ifan ar ei draed, a gofynnir am osteg.

Y mae'n mynd i ddymuno hir oes a dedwyddyd i'r yswain a'i wraig, ac i gynnig eu iechyd da hwy mewn cwpaned o win. Ofer mwyach fydd hiraethu am yr hen amser. Dyna roddi clo nas datodir byth ar bob mynwes ffyddlon. Ni ddywedir hynny, wrth reswm. Ond y mae'r cwpan wrth enau llanciau'r ardal, a'r hyn a fu, a fu. Hir oes i wraig yr yswain! Ac ni bydd ond sôn yn y gwynt mwyach am Madam Wen.

Y DIWEDD.