Tudalen:Madam Wen.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd rhywbeth yn heintus yn y chwerthiniad iach, difater, a ddaeth fel atebiad, ac yn sŵn eu deuawd hapus dechreuasant ddringo'r rhiw ochr yn ochr.

"Un peth sy'n achos gofid i mi," meddai Morys, wrth weled mor gyfyng ac anwastad oedd y ffordd, Mae Derlwyn yn geffyl campus, ond mae gennyf geffyl du gartref sydd yn werth pump ohono."

"Clywais sôn a chanmol Lewys Ddu," meddai hithau. "Ac yr oeddwn yn hiraethu am ei weld."

Gwridodd Morys o bleser. Ai gair cynnes am Lewys i'w galon bob amser, a hynny hyd yn oed pan na fyddai'r siaradwr ond un cyffredin. Ond dyma Einir yn canmol!

"Daeth Lewys a minnau ar draws haid o ladron un noson, ac mewn ymgais i'n hachub ein dau cafodd ef godwm brwnt a fu agos a'i ddifetha. Meddyliais unwaith nad oedd obaith iddo, ond trwy ddyfalbarhad cafwyd dihangfa heb dorri asgwrn. Buom ar hyd y nos yn cerdded adref, ond mae Lewys yn gwella."

Gwrandawai Einir yn astud, a'i llygaid fel lampau rhyw ddewin, yn melltennu digofaint, tosturi a llawenydd, pob un yn ei dro, fel y datblygai'r hanes. "Pwy oedd y dyhirod?" gofynnodd yn ffrom, nes peri i Morys yn ei dro deimlo rhyw fath o dosturi dros Wil Llanfihangel rhag ofn i'r adyn ryw bryd ddyfod i'w gafael hi.

Rhyw haid sy'n poeni'r cwr acw o'r wlad ers ysbaid hir—a chyrrau eraill o ran hynny—o dan arweiniad rhywun a alwant yn Madam Wen,—yn ôl y chwedl."

Culhai'r llwybr, a bu raid iddynt ei dramwy un ac un. Cymerodd Einir y lle blaenaf cyn i Morys ddeall ei bwriad, ac meddai wrtho dros ei hysgwydd,

"A oedd Madam Wen yn y fintai?"

"Nac oedd. Ac yn wir ni allaf gredu fy hun nad chwedl ddisail yw'r sôn amdani. Byddaf yn tybied weithiau mai'r lladron eu hunain sydd wedi dyfeisio a lledaenu'r stori amdani er mwyn creu arswyd yn y rhai a ysbeiliant."