Tudalen:Madam Wen.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfrif, a hithau'n holi. Yr oedd yn rhaid cael cyfrif manwl o enillion y llong, pob manylion am a gafwyd ac am a dalwyd i bob aelod o'r fintai hefyd. "A ydyw pob un wedi ei fodloni?" gofynnodd iddo ar y diwedd, a chydag ychydig wawd. "A fodlonwyd Robin y Pandy y tro yma?"

"Do, am wn i," atebodd Wil. "Mae pawb yn dawel cyn belled ag y gwn i."

"A fuoch chwi allan ar geffylau un noson? " gofynnodd iddo'n ddirybudd.

"Bu Dic a minnau am dro i'r Borth," atebodd yntau'n amwys. Ond y munud nesaf yr oedd yn hanner edifar ganddo am yr ymgais i'w chamarwain. Gwelodd wg yn tywyllu ei hwyneb, ac aeth i ddyfalu yn frysiog pa un o wib—deithiau ysbeilgar y fintai oedd wedi dyfod i'w chlyw.

"A fu mintai gref ohonoch allan un noson?" ail-ofynnodd yn bwyllog ac yn oeraidd.

"Wel do!" atebodd yntau mewn lled-addefiad, gan bryderu pa un o'r teithiau y byddai orau iddo ei dadlennu.

"A chawsoch ysbail lled fawr?"

Yr oedd hi'n ddyrys arno. Pa un ai helynt y Sais o'r Mwythig, ai ynteu'r cyfarfod â Morys Williams, ynteu'r ymweliad â Phlas Llwyn Derw oedd mewn golwg? Nid oedd Wil wedi bwriadu sôn am yr un o'r tri, oni byddai raid. Ac yn awr wrth addef un trosedd, hwyrach y deuai un arall i'r golwg. Yr oedd yn anodd gwybod pa beth i'w ddywedyd, a hithau'n disgwyl. Atebodd yn gloff, "Dim rhyw lawer iawn."

"Cawsoch ddeugain gini neu well?"

Llamodd ei galon. Yr oedd wedi cael gollyngdod. Yr oedd yn eglur yn awr mai at helynt yswain Cymunod y cyfeiriai. Dyna oedd y swm. Ac felly ni wyddai hi ddim am y daith i Blas Llwyn Derw, nac am bwrs aur y Sais o'r Mwythig. Yr oedd yno ychydig sylltau dros ddeugain gini," atebodd yn barod.