Tudalen:Madam Wen.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ofnai rhag i'r trychineb a fygythiai hi ddigwydd iddo. Gwyddai hefyd fod ei ddiogelwch ef ei hun yn fwy sicr ond ei chael hi wrth gefn. A gwyddai pawb ohonynt nad oedd un aelod o'r fintai a fuasai'n dilyn Wil hanner cam er ei fwyn ei hun, ond bod eu hymddiried ynddi hi yn drwyadl. Yr oedd ei hawdurdod hi yn bendant, ac nid oedd dim i'w wneud yn awr ond derbyn y cerydd a'r dannod yn ddistaw, a thalu ufudd-dod.

"Pa le mae'r arian?" gofynnodd iddo.

Rhannwyd hwynt yn deg y noson honno." Chwarddodd hithau mewn gwawd. "Yn deg, ai do? Anrhydedd lladron, aie? Gwrando! Bwriadaf i'r gŵr a'u piau eu cael yn ôl bob hatling.

Syrthiodd wynepryd Wil wrth glywed hynny, a dechreuodd hel esgusion. Ond ni wrandawai hi.

"Rhaid eu cael, ac am hynny dos di ar unwaith i'th gêlfan dy hun, a thyrd â deugain gini i mi, a gofala mai yn ysgrepan ledr yr yswain y dodi hwynt. Yfory, cei ymweled â'th lanciau ufudd, a gweld pa faint o anrhydedd lladron sydd yn aros ynddynt. Cawn weld a fydd Robin y Pandy yn fodlon i ymwadu er dy fwyn, a rhoi yn ôl y gyfran a dderbyniodd ef."

Daeth golwg hyll i wyneb Wil, ond rhaid oedd mynd a gwneuthur fel y gorchmynnid. Aeth tua'r bwthyn gan regi'n enbyd.

*****

Bychan a wyddai yswain Cymunod bod cymaint o sôn amdano mewn lle mor anhebyg a'r ogof y noson honno, a phell o'i feddwl ar y pryd oedd yr ysgrepan golledig a lladron Madam Wen. Yr oedd ei feddwl yn llawn o bethau tra gwahanol. Y bore wedi'r daith dros y Penmaen yng nghwmni Einir Wyn, cododd Morys yn gynnar, a'i awydd am ei gweled yn fawr, a'i serch ar dân. Yr oedd wedi myfyrio llawer am yr addefiad rhyfedd a wnaethai hi, ac wedi penderfynu ceisio'i pherswadio i anghofio'i hadduned, a myned i Fôn gydag ef i fwynhau tawelwch cartref cysurus.