Ni wyddai neb beth i'w wneud yn wyneb y fath orchymyn. "Dyma ddywed hi!" llefai Hywel Rhisiart, "Mae'n ddrwg gan Madam Wen am eich colled chwi, ond y mae gwaeth wedi digwydd i'ch cymydog. A dyma i chwi swm bychan o iawn."
"Ple mae'r dynion?" gwaeddai Hywel, cyn bod y gwrandawyr wedi hanner deall ystyr cenadwri Madam Wen. "Brysiwch! Rhedwch!"
Dechreuwyd rhedeg yma a rhedeg acw, y naill ar draws y llall, i mewn ac allan, mewn ffwdan a thwrf, a meddyliodd y rhai mwyaf ofnus bod Madam Wen a'i mintai wrth y drws y munud hwnnw.
Ond cyn hir daeth Hywel Rhisiart a'i dylwyth i ddeall sut yr oedd pethau. Daethant i ddeall pa mor ddistaw ac mor llwyr yr oedd arglwyddes yr ogof wedi gwneud ei gwaith. Yr oedd y gwartheg bob un wedi myned o'r beudai, a'r eidionau o'r cytiau pesgi; y ceffylau gorau wedi diflannu o'r ystablau, a'r glawogydd wedi dileu ôl eu traed ar y buarth. Wrth olau'r canhwyllau gwelid ôl ei dwylo hithau yma ac acw o fewn y tŷ. Prin nad oedd hi wedi chwerthin yn braf wrth weled y canhwyllau yn olau mor hwylus. Ond sut y daeth hi o hyd i gêlfan neilltuol Hywel Rhisiart ei hun? Nid swm bychan oedd i'w gael yn y fan honno, gellid bod yn siwr. Arswydai Betsi Rhisiart wrth feddwl i Fadam Wen fod mor agos i'r ystafell lle'r eisteddai hi mewn unigedd a chryndod.
Yr oedd colled Hywel Rhisiart yn fawr, a chafodd ef a'r wraig a milwr Presaddfed oriau'r noson honno i'w hail-gyfrif ac i wrando ar yr un pryd ar sŵn y corwyntoedd yn dryllio canghennau coed o amgylch Pant y Gwehydd; ac yng nghreigiau'r Ynys Wyllt, heb fod ymhell iawn, yr oedd trychineb arall ar dro, oherwydd yr un corwyntoedd.
Ystorm arswydus a welwyd y noson honno. Nid oedd preswylwyr glannau'r môr yn cofio ei thebyg ers llawer blwyddyn. Gwynt nerthol, glaw a thywyllwch fel y fagddu, a'r môr yn lluchio trochion enfawr ymhell