VII.
Y GWR O FRYSTE
PARODD ysbeiliad beiddgar Pant y Gwehydd gynnwrf dirfawr trwy'r holl ardaloedd cylchynol, er nad oedd y cydymdeimlad â Hywel Rhisiart agos mor ddwys, na hanner mor gyffredin â phetasai yr unrhyw golled wedi syrthio i ran ambell un. Nid y dirgelwch lleiaf ymysg llawer o bethau anesboniadwy ydoedd pa beth a ddaethai o'r gwartheg a'r ceffylau. Bu lliaws o gyfeillion cyfrwysaf Hywel yn dyfalu llawer uwchben y broblem, ond i ddim pwrpas. Y peth nesaf i reswm y daethant ar ei draws ymhlith y dryblith o ddamcaniaethau oedd y ffaith fod gan Madam Wen liaws o gyfeillion yn ymyl, a'u ffyddlondeb iddi yn ddiwyro.
Drannoeth wedi'r ystorm, dadebrodd lletywyr Siôn Ifan o'u cwsg a'u hanner llesmair, a gwelwyd hwynt yn rhodiannu yng nghyffiniau'r dafarn heb fawr o ôl ystorm arnynt. Drannoeth hefyd y daeth yr hen dafarnwr i ddeall bod ganddo ar ei aelwyd o leiaf un gŵr a'i hystyriai ei hun yn rhywun. Nid yn unig ystyriai'r Milwriad Sprigg ef ei hun yn rhywun o bwys, ond dangosai yn eglur i bawb ei fod yn disgwyl i eraill gydnabod y pwysigrwydd hwnnw, a thalu gwrogaeth gymesur iddo.
Un afrywiog ei dymer oedd y Milwriad, a digiwyd Siôn Ifan droeon mewn amser byr, yn enwedig wrth orfod gwrando ar eiriau ffôl ac annheg o berthynas i ansawdd diodydd Tafarn y Cwch, nwyddau a ystyriai yr hen ŵr uwchlaw gwag gabledd. Dyn uchel ei gloch hefyd oedd y milwr, ac mor ddibarch o'r rhai a ystyriai islaw iddo ag ydoedd o wasaidd yng ngwydd y rhai y gwyddai eu bod uwchlaw iddo.
Wedi hynny y gwelodd Sion Ifan hyn. Yr oedd iddo un rhagoriaeth, modd bynnag, yr oedd ganddo arian i dalu ei ffordd, ac am hynny barnodd Siôn Ifan mai ei ddyletswydd ef fel penteulu oedd gwasgu'r glust a bod yn amyneddgar.