"Popeth mewn cytgord yn addoli: popeth ond dyn!" ychwanegodd y llall, a'i dôn yn llawn o edliw. Edrychodd y milwr yn sarrug. "Ni ddaethum yma i wrando pregeth!
"Pa un a ddaethoch ai peidio, mae digon o angen pregeth arnoch," meddai yntau'n wrthnysig.
Gwridodd y Milwriad gan ddigllonedd, ond yr oedd yn rhy ffyrnig i ateb gair.
Cywilydd o beth ydyw ar fore fel hwn. Ac nid oes galw yn y byd amdano ond eich balchter a'ch casineb chwi eich hun. Mae'n debyg yr ystyriwch eich hun yn ddiguro mewn ymrafael?
"Onibai nad wyt ond megis bachgennyn, ni buaswn yn dioddef hynyna," meddai'r Milwriad.
Chwarddodd y gŵr ieuanc yn wawdlyd. Yr oedd fel pe am fynnu cweryla. Esgus yw hynyna. Ond mae ambell i fachgennyn nad oes arno arswyd yn y byd rhag geiriau chwyddedig y Milwriad Sprigg, nac ychwaith rhag ei fedr honedig gyda'i gleddyf!
Brochodd y milwr, ac mewn amrantiad tynnodd ei gleddyf o'i wain. Ond er cyflymed oedd, yr oedd y gŵr o Fryste o'i flaen, ac yn barod i'r ymgyrch.
Capten White," meddai'r Milwriad, gan arafu wrth ganfod parodrwydd y llall, " Yr ydych yn tynnu hyn arnoch eich hun, cofiwch.'"
"Gwn hynny'n burion," oedd yr ateb digymod, "ac nid oes angen dyhiryn fel y Milwriad Sprigg i'm dysgu mewn dim, hyd yn oed mewn trin fy nghleddyf."
"Gwareded Duw chwi!" meddai'r Milwriad mewn bombast amlwg; a dechreuodd chwarae â'i gleddyf mewn gwag-rodres, fel y codir arswyd ym mynwes plentyn. Ond ni bu'n hir cyn deall bod angen am ei wyliadwraeth fanylaf, ac na fedrai fforddio chwarae â'r gŵr o Fryste.
Clôs o sidan gwyrdd oedd am y Milwriad, ac ar bob penlin i hwnnw yr oedd tri o fotymau. Yr oedd y botymau hyn yn tueddu i fod yn fwy na'r cyffredin, yr hyn feallai a fu'n foddion i dynnu sylw'r gŵr ieuanc