Tudalen:Madam Wen.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyn bod trwst traed y llanc ar y cerrig wedi llwyr ddistewi, clywodd y siryf dychrynedig sŵn dieithr arall, megis wrth ei benelin. Daeth chwys oer drosto, a theimlodd ei wallt, yr ychydig oedd ganddo, yn codi gan arswyd. Chwyddodd y sŵn, nes mynd yn rhuad a lanwodd yr ogof, a meddyliodd y truan bod ei awr ddiwethaf wedi dyfod. Ac ni bu erioed dywyllwch mor ddu.

Yr oedd yn rhy gynhyrfus i sylweddoli yn iawn beth oedd yn digwydd iddo. Ond teimlodd ei hun yn cael ei gipio a'i lapio megis gan enau anferth rhyw anghenfil arswydus, a'i ysgubo fel y gwynt na wyddai i ba le. Ni wyddai pa hyd y parhaodd y daith. Teimlai ryw hanner llesmair arno. Ond dadebrodd wrth weled eilwaith olau o'i gylch, ac wrth deimlo a'i gael ei hun yn disgyn fel boncyff o bren ar wyneb y llyn, ac yn ymgladdu yng ngwaelodion hwnnw.

Clywodd Ifan waedd, a rhedodd at fin y dŵr. Yr oedd mewn pryd i weld y siryf, mor wlyb a moel yr olwg â llygoden y dŵr, yn ymlusgo drwy'r hesg at ddernyn o graig. Rhoddodd help llaw iddo i ddyfod i dir, lle gorweddodd ar y glaswellt, wedi cael y fath ysgytwad i'w gorff a'i feddwl nes peri iddo grynu fel deilen.

"Sut y bu hyn?" gofynnodd Ifan. gofynnodd Ifan. "Pa ffordd y daethoch chwi i'r fan yma?"

Duw'n gwaredo!" meddai'r siryf, gan ysgwyd ei ben, a heb fedru egluro ymhellach.

Ac meddai'r llanc cyfrwys wedyn, "Welais i erioed y fath beth! Sut y daethoch chwi? Ni fuoch chwi ddim yn hir. A welsoch chwi rywbeth?"

"Nawdd y nef!" Daliai'r siryf i ysgwyd pen yn ddifrifol. "Nawdd y nefoedd fyddo drosom ni rai annheilwng! Bobol y ddaear!"

Yr oedd Catrin Parri wedi cynefino ag ymgeleddu trueiniaid wedi cyfarfod â thrychineb trwy ddŵr, a chafodd y siryf ddillad sychion yn ddioed. Eisteddai ar fainc wrth y tân, gan edrych fel bachgen wedi tyfu