Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Manion.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CALON LAWN O BRYDER

(Dienw, o'r Wyddeleg)[1][2]

Calon imi, fel yr awn,
A ddaeth, sy lawn o bryder;
Pwy a fyddai falch ei lun
O ado bun ei hyder?

Cwyn fel cynnydd gwinwydd haf
Daeth arnaf gydag ystod,
Ac ni cheisiaf gelu nych
O edrych ar dy gysgod.

Ysgar edn â'r gloywddwr glân,
Neu dduo'r huan cynnes,
Fydd y gwae i mi fy hun
O golli mun fy mynwes.

1916


  1. Troswyd y cerddi sy'n canlyn o'r Wyddeleg, fel enghreifftiau o debygrwydd y traddodiad berddig yn Iwerddon a Chymru, of ran deunydd a dull. Perthyn y cerddi i'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ar bymtheg. Ceir hwy, a llawer ychwaneg, yn Dántá Grádha... T. F. O'Rahilly... Dublin, 1916.
  2. Tudalen Cywiriadau:Tud. 129, y llinell isaf ond un yn y nodiad, darllener Dánta.