Tudalen:Manion.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Bu 'nhad[1] yn ymladd," meddai,
"A Boni yn ei dro,
Er nad oedd arno lawer
O duedd mynd o'i go—
Heblaw mai yn ei freci
Yr oedd pan bresiwyd o.

"Daeth adref ar ei uncoes
A thri neu bedwar clwy,
A llwyddodd, drwy elusen,
I fyw am beth yn hwy,
A'i gladdu fu'n y diwedd,
Fel ci, ar gost y plwy.

"Bu 'nhad yn Sir Forgannwg
Yn gweithio yn y glo,
Nes aeth y tân ryw ddiwrnod
A darn ohono fo,
A chedwais innau'r gweddill
Nes rhoed o dan y gro.

  1. Cywiriadau:Tud. 62, 11. 1, darllener "Bu 'nhaid."