Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fisoedd, ar ei wely angeu, fel y credid gan bawb bron. Bu Mr. Williams yn ei wylio noson ar ol noson, yn gwylio a gweddio, a darllen y Beibl hyd 3 o'r gloch lawer bore. A chlywais gymydog yn dweyd iddo ei weld un bore yn dyfod gartref am 5 o'r gloch mewn ystorm o eira. A chofiwch, nid y brethyn gore sydd yn nillad Mr. Williams, a bu yn dioddef am wythnosau lawer mewn canlyniad i hyn. A chlywais chwi eich hunain yn dweyd nad yr un dyn oedd John, ar ol gweddiau Mr. Williams. Mae yn wr mwy caredig, ac yn dad lawer mwy tyner; ydyw, ac y mae yn Gristion gwirioneddol. Pa faint am yna, Mrs. Isaac? (aros am eiliad). Roedd Dafydd, Ty Gwyn, yn ddyn arswydus un adeg; mae heddyw yn Faer mewn dinas enwog yn Lloegr, yn gynorthwy pob mudiad daionus, yn graig lloches i'r gweddwon a'r amddifaid, -ac yn glod i'w genedl. Mr. Williams achubodd ef. Dwedodd Dafydd hynny ei hunan lawer gwaith. Pa faint am yna? Dwn i ddim beth fyddai wedi digwydd i Mrs. Jenkins, onibae am help y gweinidog. Collodd tri o'i phlant bach o'r scarlet fever, bron yn yr un wythnos; bu bron mynd yn wallgof: Mrs. Isaac, gofynwch i Mrs. Jenkins beth mae'n feddwl am Mr. Williams; gofynwch iddi hi roi pris ar ei lafur yn y plwyf yma. Angel Duw,' 'Cysgod rhag y gwres, a lloches rhag y dymhestl' (yn aros am eiliad)-dyna beth mae Mrs. Jenkins yn feddwl am Mr. Williams. Dyw Mr. Williams ddim yn bregethwr Cyrdde Fawr; dyw e ddim yn gallu ysgrifennu'n ddigon galluog i gael ei enw yn y cylchgronnau, ond mae yn un o weision ffyddlonaf a duwiolaf yn y wlad. Ellwch chi brisio dynion fel hyn mewn aur ac arian, Mrs. Isaac? Rwy'n hoff o farddoniaeth, gwrandewch ar y tamaid byw, tarawiadol hyn:-

Gymru annwyl, paid ymffrostio,
Nid i ti mae'r clod i gyd
Na bai'r proffwyd wedi 'th ado
Am esmwythach, brafach fyd.

Llawn fydd byrddau'r wledd lle 'r elo
Braster meddwl drostynt red-
Bwrdd ei gartre, sut mae yno ?
Gymru, sut mae yno, dwed?