ACT I.
Amser, y flwyddyn 1915. Lle, Cegin y Parch. Phylip Williams, Moriah. Capel mewn rhan hanner-wledig ym Morgannwg. Pyllau Glo tiia dwy neu dair milltir o'r pentre. Cegin hytrach yn llwm ond yn lan a chysurus yr olwg. Darluniau ar y mur, bwrdd ac ychydig gadeiriau ar y parth; y bwrdd tua'r canol. Ffenestr ar y llaw chwith, Drws tu ol i'r ffenestr, a drws arall tu ol i'r bwrdd ar y llaw ddehau. Jenkiny mab, 18 oed, cryf ac iach yr olwg, yn eistedd wrth y bwrdd yn darllen, a'i chwaer Morfydd, tua 20 oed, yn clirio'r llestri ar ol boreufwyd, ac yn mwmian canu. Bookcase bychain wrth y mur, yn gwynebu'r gynnulleidfa. Lle tan tu cefn i Jenkin,
- D.S.—Wrth y llaw chwith, golygir llaw chwith i'r Actor.
JENKIN (yn darllen allan) : "Men at some time are masters of their fate."
"The fault, dear Brutus, is not in our stars,
But in ourselves that we are underlings"
(Yn uwch): "Underlings!" (Morfydd yn sefyll ac yn edrych ar Jenkin, yna Jenkin yn codi'n sydyn ac yn cerdded yn gyflym i gyfeiriad y Boohkase, ac yn edrych fel pe bai yn chwilio am lyfr
MORFYDD: "Am beth wyt ti'n chwilio, Jenkin? Am y wers?
JENKIN (yn tro'n sydyn ac yn edrych i wyneb ei chwaer, ac yna yn sarug). Y wers, ddwedest ti? Dim rhagor o'r wers i mi. Clywaist ti beth ddarllenais i yn awr? 'The fault, dear Brutus, is not in our stars, but in ourselves, that we are underlings.' Underlings! Underlings! Morfydd! Dyna beth i ni i gyd yn y tŷ yma, ti a minnau; ie, a nhad hefyd. O ti yn yr Ysgol y Sul diweddaf, wrth gwrs, Clywaist ti'r fath ddwli yn dy fywyd?
MORFYDD: At beth wyt ti'n cyfeirio?