Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFAN:
Fe gymeran nhw'n cynnig cynta ni ar y rhent a'r les . . .

ELEN (â gwên):
Fe gawn ninnau ddau enllyn ar y dafell,—rhent isel, les hir,—
rhaid wrth les hir er mwyn y plant. . .

IFAN:
Y plant fydd yn ffermio'r dyfodol, nid ni . . .

RHYS:
Fe gawn ni'n gwala tra fyddwn ni. . .

ELEN:
a gweddill, i gychwyn y plant yn eu rhych. . .

SAL:
Fe wnawn bres i brynu'r lle-bach neu i gymryd fferm fawr
i'r plant, fel bo preseb a rhastl yn llawn iddyn nhw. . .

IFAN:
Fe fydd ceiniog fach weddol wrth gefn yn y banc
pan ddaw'n cŵys ni i dalar . . .

RHYS:
pan gaeir y grwn
fe gawn fôt-frics yn y fynwent..

ELEN:
a charreg ddu sgwâr
a'n henwau ni'n pedwar, un ar bob wyneb
—dau frawd a dwy chwaer o Langors-fach

SAL:
Ifan a Rhys ac Elen a minnau—
o Langors-fach y gwyn-fan-draw.

(Newidier lliwiau'r golau).

MARI a SHANI:
Y gwyn-fan-draw yng Nglangors-fach,—
y plant sydd i ffermio'r dyfodol;
egin a blagur eu gwanwyn gwyrdd
a gwenwyn ein llwydrew gwyn yn eu nychu;

SHANI:
egin a blagur â'u dail heb lydanedd
a llydnod asennog ein llid yn eu pori;