Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFAN:
Yr hen gythraul! arni hi 'roedd y bai.
Sut own i i wybod y byddai hi'n cilio a baglu'n y rhaca?

ELEN:
Ond ti ddysgodd iddi gilio wrth ei dyrnu'n ei phen
â chambren a morthwyl, a'i chicio'n ei bola;
'roedd raid iddi gilio, druan fach, a baglu
yn nannedd y twmbler, a thaflu'r crwt bach. . .

IFAN:
'Roedd Berti mor ddiffrwyth, mor gymyrcyn.

RHYS:
Awen y ffrwyn oedd ry fer,
a'r bit sharp yng ngheg yr hen gaseg yn llifanu ei thafod,
a'i hen gefn hi fel llawlif o tano;
'doedd dim ffordd iddo'i gyrru hi'n gywir.

SAL:
Ni ddylai fe ddim bod ar ei chefn hi o gwbl,
fel mwnci bach, druan, ar ei gwar hi, yn dal wrth y mwng.
Arnat ti 'roedd y bai.

IFAN:
'Roedd popeth o chwith. Sut own i i wybod?
Dim ond cydio'n ei hen ben hi i'w throi 'nôl i'w lle,
dyna'i gyd;
—a'r dafnau glaw bras a'r gwair ar wasgar-
hithau'n tasgu a baglu, a thaflu'r crwt bach.
Pam raid iddi faglu oedd?
Pam oedd raid iddo fe daro'i ben, druan bach?

SAL:
Druan o'i ben bach e.

ELEN:
Pa well oeddit tithau o bwnio'r hen gaseg
yn dy hen natur-ddrwg,
a mesur ei hyd hi ar y llawr?

RHYS:
Efallai ei bod hi'n well fel yr oedd hi
na'i fod e'n llusgo byw. . .