Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/2

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MEINI GWAGEDD

Profiad hyfryd. . . oedd dod ar draws y ddrama anghyffredin hon. Dengys y cyfarwyddiadau fod yma awdur sy'n ceisio datblygu techneg newydd, ac y mae'r tudalennau cyntaf yn ddigon o brawf ei fod yn gwybod sut i ddefnyddio iaith ar lwyfan, a'i fod yn ceisio creu rhywbeth newydd ym myd y ddrama Gymraeg. . . Mae'r cirfa yn gyfoethog o eiriau ac ymadroddion tafodieithol ffermwriaeth, a defnyddir hwynt yn hynod o effeithiol . . . Teimlaf fod hon yn ddrama!! nodedig ym mhob ystyr, ac yn agor maes newydd i chwaraewyr Cymru. Saif ar ei phen ei hun yn y gys- tadleuaeth.

D. MATTHEW WILLIAMS.

Beirniadaethau (Llandybie) 1944.

. . . a chyfarch James Kitchener Davies fel un o feirdd mwyaf Cymru heddiw. . . Bu darganfod ei fod yn fardd, ac yn fardd cymaint, yn syndod i minnau hefyd, ond nid oes dim cysgod o amheuaeth yn fy meddwl i am y peth. . . .

Dyma yn sicr gampwaith barddonol i'w restru gyda'r pethau mawr a gynyrchodd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Llongyfarchaf Kitchener Davies, a llongyfarchaf yr Eisteddfod ar allu symbylu darn o farddoniaeth o'r radd flaenaf fel hwn. Bu ei ddarllen dro a thro-am oriau ni allwn mo'i adael-yn brofiad cyffrous, rhyfeddol, yn beth a fynn ei le blaenllaw yn fy ymwybod tra byddwyf.

EUROSRWYDD yn Y Faner, Awst 23, 1944.