Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon


MARI a SHANI:
Heno, a byth bythoedd 'nôl yma i'r gegin,
gecran-cweryla am y rhent a'r les;
ninnau'n darth o'r gors yn cyfodi,
yn angau dilonyddwch, yn wacter hesp;
yn dioddef dialedd y tadau ar y plant,
yn gyrru dialedd trwy siglennydd y gors;
yn gwysi ac yn gwlltwr i aradr dialedd,
yn hadyd a thir âr i'r ddiogfaint dragywydd,
heb inni orffwysfa na rhoi gorffwys.
Fihangel erlidiol, derbyn y rhent ar y les
—y rhent rhy uchel a'r les rhy hir—
 derbyn y rhent ar y les.


DISGYNED Y LLEN YN ARAF.

DIWEDD