Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MEINI GWAGEDD


. . .o genhedlaeth i genhedlaeth y diffaethir hi; ni bydd cynniweirydd trwyddi byth bythoedd. Y pelican hefyd a'r draenog a'i meddianna; y dylluan a'r gigfran a drigant ynddi; ac efe a estyn arni linyn annrhefn a meini gwagedd. . . Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheurydd; a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys.

Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a'r cathod, a ymgyfarfyddant; yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr wyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi.

Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fylturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyd a'i gymhar. —Esaiah xxxiv, 10, 11, 13 a 15.

CYMERIADAU

A. GŴR GLANGORS-FACH a'i ddwy ferch, MARI a SHANI (sef Y TRI).

B. Y ddau frawd a'r ddwy chwaer, IFAN a RHYS ac ELEN a SAL (sef Y PEDWAR).

Rhithiau ydynt bob un, ar grwydr o'u beddau, ac ar aelwyd Glangors-fach ar nos-wyl Fihangel yn unrhyw un o flynyddoedd y ganrif hon.

GOLYGFA

Cyfyd y llen ar adfeilion GLANGORS-FACH tan leuad-fedi ar nos Gwyl Fihangel.

Tua chanol y mur dadfeiliedig yn y cefn y mae gweddillion aelwyd y tyddyn trist. Y lloergan yw'r unig olau, ac wrth i'r lleuad gar- lamu trwy gymylau ysbeidiol, newidia'r lliwiau fel y bo'r deialog yn gofyn. (Awgrymir GLAS i'r Tri, a MELYN i'r Pedwar).

Wrth i'r llen godi bydd GŴR GLANGORS-FACH a'i ddwy ferch ar gyntedd llawr y murddyn,—efe yn y canol, ar ei eistedd ar dwmpath uwch na'r llawr o bridd-a-cherrig, a thyfiant o ddanadl a thafol ac ysgall a drain o'i gylch. Pan newidio'r golau diflannant hwy, a bydd y Pedwar arall yn eu hunfannau llonydd ar y llwyfan, SAL a RHYS, ELEN ac IFAN. Bydd y ddwy ferch yn eistedd ar dwmpathau gweddol isel. Ni bydd mynd-a-dod iddynt hwythau ond pan fo'r golau yn newid, a'r Tri wedi cymryd eu lleoedd fel o'r blaen. Ni ddylid torri ar undod y chwarae. Newidia'r golau trwy amrantiad o dywyllwch. Rhaid i'r cymeriadau newid lleoedd yn llyfn- esmwyth a chyflym yn yr amrantiad du hwn. I hwyluso'r symud gellid trefnu llenni (neu adenydd llwyfan) fel y geill Y TRI a'r PEDWAR gilio iddynt ac ymguddio heb ffwdan.