Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARI:
Shani!
O Shani! 'roedd bechgyn y Dre,—y bechgyn gwallt slic,
a'r bysedd lliw traddu lloi bach,
a'r geg tan bwys sigarennau ar ogwydd,
a'r trowsus cwarelog, a'r clwstwr allweddau'n gwneud sŵn,
—clarcod, athrawon, bancwyr, polismyn—
yn flys yn dy gnawd ti, hen ferch fel ti. . .

SHANI:
yn ddŵr trwy dy ddannedd di, a thithau'n rhy hen i ddim byd.

GŴR:
A dyna fel byddwn ni'n dannod i'n gilydd. . .

SHANI:
byth-bythoedd y byddwn ni'n codi hen grach . . .

MARI:
'chaem ni ddim, 'chawn ni ddim dianc
nac i'r Dre nac i'r bedd rhag y gors . . .

SHANI:
methodd y bedd ein dal rhag y gors,
chwydodd ni nôl i siglennydd y gors,
siglennydd eich dial chwi 'nhad. . .

GŴR:
Glangors-fach!
Glangors-fach! Fi gododd y tŷ a'r tai-maes,
fi gloddiodd, fi blannodd y perthi,
fi sychodd y gors â chwteri a ffosydd;
fi a'i dofodd hi a'i chyfrwyo a'i marchogaeth yn hywedd.

MARI:
'Roedd y tŷ ar ei draed cyn eich bod chwi 'nhad
a'r lle wedi ei gau a'i sychu'n weddol;
nid chwi, ond . . .

GŴR:
dy dadcu, dy hen-hen-dadcu, dy deidiau o'r bôn
—cenedlaethau fy ngwaed i a'm gïau—
a droes Glangors-fach yn ardd trwy'r canrifoedd.
Nhw yw Glangors-fach, nhw ynof fi.
Ynof i,—a'm lwynau'n cenhedlu marwolaeth!