Gwirwyd y dudalen hon
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd ddirymu cyfarwyddyd a roddir ganddynt o dan is-baragraff :(1) os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi cymryd y camau priodol i unioni’r methiant yr oedd y cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef.
- (4) Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff :(1) neu :(3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
- (a) â’r awdurdod gorfodi, a
- (b) ag unrhyw bersonau eraill y mae’n briodol ymgynghori â hwy yn eu barn hwy.
- (5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
- (6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod gorfodi—
- (a) cyhoeddi’r cyfarwyddyd mewn ffordd sy’n briodol yn marn Gweinidogion Cymru, a
- (b) cymryd unrhyw gamau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod gorfodi neu y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol er mwyn dwyn y cyfarwyddyd at sylw personau eraill y mae’n debygol y bydd yn effeithio arnynt.
Talu cosbau i Gronfa Gyfunol Cymru
23 Pan fo awdurdod gorfodi heblaw Gweinidogion Cymru, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr Atodlen hon, yn cael—
- (a) cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio,
- (b) unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’r cyfryw gosb yn hwyr, neu
- (c) swm a delir er mwyn i berson ei ryddhau ei hun o’r atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig, rhaid i’r awdurdod gorfodi ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru.”.
© ⓗ Hawlfraint y Goron 2011
Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines.