Gwirwyd y dudalen hon
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008
2008 mccc 1
MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglyˆ n â threfniadau ar gyfer gwneud iawn mewn perthynas ag atebolrwydd mewn camwedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Mai 2008 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor ar 9 Gorffennaf 2008, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—
1 Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer iawn am gamweddau'r GIG
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy gyfrwng rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd yr adran hon yn gymwys.
- (2) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar ran corff neu berson a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymwys yng Nghymru neu yn rhywle arall fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
- (3) Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw—
- (a) Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru;
- (b) Bwrdd Iechyd Lleol;
- (c) Awdurdod Iechyd Arbennig;
- (d) Gweinidogion Cymru;
- (e) corff neu berson sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff neu berson a grybwyllir ym mharagraff (a) i (d).