Tudalen:Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(a) ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol di-dâl i unigolion sy'n ceisio iawn o dan y rheoliadau;
(b) ar gyfer darparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigwyr meddygol, mewn cysylltiad â chais am iawn o dan y rheoliadau.
(2) Rhaid i'r rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod unigolion y caniateir gwneud cynnig o iawn iddynt o dan y rheoliadau yn cael ymofyn am gyngor cyfreithiol yn ddi-dâl mewn perthynas ag—
(a) unrhyw gynnig a wneir,
(b) unrhyw wrthodiad i wneud y cyfryw gynnig; ac
(c) unrhyw gytundeb setlo.
(3) Caiff darpariaeth o dan is-adran (1)(a) neu (2) ynghylch pwy a gaiff ddarparu'r cyngor cyfreithiol gael ei gweithredu drwy gyfeirio at restr sy'n cynnwys darparwyr posibl ac a lunnir gan berson neu gorff penodedig.
(4) Os yw'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau arbenigwyr meddygol, rhaid iddynt ddarparu hefyd bod yr arbenigwyr hynny yn cael eu cyfarwyddo ar y cyd gan y corff neu'r person sy'n gweithredu'r trefniadau iawn o dan y rheoliadau a chan yr unigolyn sy'n ceisio iawn.

8 Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn

(1) Dyletswydd Gweinidogion Cymru yw trefnu, i'r graddau y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diwallu pob gofyniad rhesymol, fod cymorth yn cael ei ddarparu (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion sy'n ceisio iawn, neu'n bwriadu ceisio iawn, o dan y rheoliadau.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniadau eraill y maent yn barnu eu bod yn addas ar gyfer darparu cymorth (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion mewn cysylltiad ag achosion sy'n destun cais am iawn o dan y rheoliadau.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i unrhyw berson neu gorff yn unol â threfniadau o dan yr adran hon ac adran 7.
(4) Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r egwyddor y dylai darparu gwasanaethau o dan y trefniadau mewn cysylltiad ag achos penodol, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod yn annibynnol ar unrhyw berson y mae a wnelo'r achos â'i ymddygiad neu unrhyw berson sydd â rhan yn y gwaith o ymdrin â'r cais am iawn.

9 Swyddogaethau o ran trefniadau iawn

(1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod â'r swyddogaethau o ran gweithredu trefniadau iawn o dan y Mesur hwn y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn addas.
(2) Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i'r cyfryw bersonau neu gyrff fod â swyddogaethau mewn perthynas ag—
(a) ymofyn am iawn;
(b) taliadau yn iawn o dan gytundebau setlo;
(c) darparu cyngor neu ganllawiau am faterion penodedig mewn cysylltiad â threfniadau iawn;