Gwirwyd y dudalen hon
- (b) yr hysbysir pennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig o'r penderfyniad o leiaf 24 awr cyn bydd tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol.
- (7) Y trydydd amod yw bod y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
- (8) Y pedwerydd amod yw bod yr awdurdod lleol yn hysbysu rhiant y dysgwr, o leiaf 24 awr cyn i dynnu'n ôl y trefniadau ddod yn effeithiol, bod y trefniadau teithio'n cael eu tynnu'n ôl.
- (9) Y pumed amod yw nad yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn fwy na 10 niwrnod ysgol dilynol.
- (10) Y chweched amod yw na fyddai'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn arwain at dynnu'n ôl drefniadau teithio oddi wrth y dysgwr am fwy na 30 o ddiwrnodau ysgol yn y flwyddyn ysgol y mae tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol ynddi.
- (11) Wrth benderfynu a yw penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol at ddibenion is-adran :(7), rhaid ystyried yn benodol y materion canlynol—
- (a) a yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn gymesur ag amgylchiadau'r achos,
- (b) unrhyw amgylchiadau arbennig sy'n berthnasol i dynnu'n ôl drefniadau teithio ac sy'n hysbys i'r awdurdod lleol (neu y dylai'r awdurdod lleol fod yn ymwybodol ohonynt) gan gynnwys yn arbennig—
- (i) oed y dysgwr,
- (ii) unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod gan y dysgwr,
- (iii) unrhyw anabledd a all fod gan y dysgwr,
- (iv) a fyddai'r dysgwr yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, a
- (v) a all rhiant y dysgwr yn rhesymol wneud trefniadau teithio amgen sy'n rhai addas.
(12) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (6) neu is-adran (8) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n benodol—
- (a) y cyfnod pan yw trefniadau teithio wedi eu tynnu'n ôl, a
- (b) rhesymau'r awdurdod dros dynnu'n ôl y trefniadau teithio.
(13) At ddibenion yr adran hon ac adran 17, ystyr "ysgol berthnasol" yw—
- (a) ysgol a gynhelir,
- (b) uned cyfeirio disgyblion, neu
- (c) ysgol arbennig nas cynhelir.
(14) Caiff rheoliadau—
- (a) diwygio neu ddiddymu y naill neu'r llall o is-adrannau (9) a (10), neu'r ddwy;
- (b) gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2);