a'u sobrwydd yn y gwaith hwnw (o addoli), ynghyd â'u hymddygiad gweddaidd bob amser arall. Yn ail, Llid a chwerwder y bobl anfoesol tuag atynt. Os wrth y ffrwythau yr adwaenir gwir grefydd a duwioldeb, yr oeddynt yma i'w gweled yn mhlith y tylodion hyn.
Fe ddaeth Mr. Harris i'r Gogledd, medd John Evans, yr ail waith yn yr haf yr un flwyddyn, a thrachefn yn y fl. 1740. Tueddir fi i feddwl mai yn y fl. 1741, ac nid 1740, y bu Mr. Harris y drydedd waith yn y Bala; yn hytrach nag fel y dywed John Evans, yr hwn a ddaeth i'r dref hóno ei hun i fyw yn y fl. 1742; a sicr ydyw, fod y tro hwnw yr ymosodwyd ar Mr. Harris mor fileinig gan yr erlidwyr, wedi dygwydd cyn dyfodiad John Evans i'r Bala i fyw. Mae Mr. Harris ei hun yn dweyd yn ei ddyddlyfr, mai y fl. 1741 ydoedd; felly hefyd y dywed awdwr Drych yr Amseroedd. Nid oes son, ychwaith, yn Autobiography Mr. Harris, am yr ail waith yn haf 1739, y sonia John Evans am dano; ac anhawdd ydyw meddwl, wrth olrhain ei deithiau eraill, ei bod yn ddichonadwy iddo ef fod ddwywaith yn Ngwynedd yn y flwyddyn hóno. Pa un bynag, ni fu ei ymweliadau â'r Gogledd y troiau hyn ddim yn ddiffrwyth.
Y mae yn bur debyg mai trwy ei weinidogaeth ef yn rhywle yn Nhrefeglwys, sir Drefaldwyn, ar ei fynediad i sir Feirionydd y tro cyntaf, yn y fl. 1739, y galwyd yr hybarch Lewis Evan o Lanllugan, gŵr ag a fu yn ddefnyddiol iawn yn ei oes, ac a brofodd lawer o chwerwder oddiwrth falais ac ystrywiau pyrth uffern, a gŵr y bydd yn dda genym gyfeirio eto at ei hanes yn ol llaw.
Gan mai ar gais Mr. L. Rees y daethai Mr. Harris i'r Gogledd y tro hwn, naturiol ydyw casglu nad aeth efe heibio i Lanbrynmair heb bregethu yno, er na chrybwylla efe ei hun am un ymweliad o'i eiddo a'r lle hwn; a chan na chyfarfu ag ef ddim gofidus yno pan y bu, fe allai yn hawdd adael hyny allan. Y mae son am dano, pa fodd bynag, yn pregethu yno, wrth dŷ tafarn a elwid y Cock y pryd hyny, ond y Wynnstay Arms yn awr. Yr oedd son am dano wedi myned ar led y gymydogaeth fel un a welsai weledigaeth, yr hwn a âi o amgylch y gwledydd i fynegu yr hyn a welsai ac a glywsai. Yn mhlith eraill a ddaethant i'w wrando, yr oedd tri o frodyr, sef William, Edward, a Richard Howel, a gŵr arall o'r enw Richard Humphrey. Aeth dau neu dri o'r gwŷr hyn i ben, tŷ bychan gerllaw, i le a dybid yn gyfleus i wrando. Dechreuodd Harris bregethu, a nodi beiau yr oes hóno, yn ei ddull llym a phriodol iddo ei hun; tybiasant hwythau fod y pregethwr yn gwybod am danynt, a'i fod megys yn eu nodi hwy allan. Bu gorfod arnynt, gan rym cydwybod, ddisgyn oddiar ben y tŷ, fel Zaccheus o'r sycamorwydden, a saeth argyhoeddiad a drywanodd galon y pedwar gŵr. Dyma gychwyniad Methodistiaeth yn Llanbrynmair; ac os nad wyf yn camsynied am yr amser, dyma flaenffrwyth Methodistiaeth Gogledd Cymru. Dywedir hyn ar y dybiaeth i Harris bregethu yn Llanbrynmair ar ei hynt gyntaf i'r Gogledd, sef yn y fl. 1739.
Ymffurfiodd y gwŷr uchod, yn nghydag ychydig eraill o gyffelyb feddwl, yn