Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y tai a'r maesydd fel wedi eu gwisgo â newid gwedd. Yr oedd y wlad ei hun yn ymddangos yn decach nag o'r blaen. Ac mewn gwirionedd, yr oedd trigolion y plwyf yn gyffredinol wedi teimlo grym yr ymweliad; ac er nad oeddynt oll yn ddeiliaid gweithrediadau achubol, eto gwellhawyd eu moesau, a thynerwyd eu cydwybodau. Rhoes yr ymweliad wedd mwy mawreddig ar foddion gras; deuai y gwrandawyr i'r cysegr, megys i ŵydd Duw; a theimlent i raddau mwy nag arferol, eu bod mewn "lle ofnadwy."

Nid yw yn ymddangos fod yr ymweliadau grasol yn unffurf mewn dim, ond yn natur ac effeithiau parhaol y gweithrediadau. Nid yw y diwygiadau yn dechreu ond yn anfynych yn yr un dull, na thrwy yr un moddion. Nid ydynt yn unffurf, ychwaith, yn eu heangder, nac yn eu graddau. Dechreuant weithiau yn dra disymwth, a phryd arall yn fwy graddol. Cyrhaeddant weithiau rhyw ddosbarth neillduol o'r gynulleidfa, a phryd arall fe gyrhaedd ei ddylanwad bob gradd ac oed. Weithiau, fe roddir gwedd siriol a hyfryd ar yr holl ymarferiadau crefyddol, heb ryw dori allan cyffrous, a phryd arall fe fydd y bedydd tanllyd yn ysu yn fwy angherddol, ac yn goddeithio pob peth o'i flaen. Dechreuai mewn rhai manau yn nghyfarfodydd canu yr ieuenctyd, pryd y disgynai arnynt fath o ysbrydoliaeth, yr hwn a roddai iddynt flas anarferol ar y geiriau a genid, ac a'u codai i hwyl nefolaidd a difrifol wrth ganu. Gyda hyn, rhoddid iddynt flas newydd ar foddion eraill; newidid eu gwedd gan ddifrifwch meddwl; ac arafid eu camrau gan ddwysder y gweithrediadau. Ac er na fyddai pawb a gyfranogai o'r teimladau hyn yn perchenogi gwir grefydd, eto rhoddid iddynt, ar y pryd, ryw "galon arall," fel y rhoddwyd i Saul pan ydoedd yn mysg y proffwydi. Mewn manau eraill, dechreuai mewn cyfarfod i weddio, a thorai allan ambell waith yn ddisymwth, pan y byddai brawd, lled drwsgl ei ddawn, yn ymbil gyda Duw. Weithiau arwyddai ei ddynesiad, trwy fod y gynulleidfa yn cynyddu mewn rhif, ac yn diwygio mewn cysondeb a gwastadrwydd, a thrwy ddyfod at eu gilydd yn fwy prydlawn, ac yn argoeli mwy o astudrwydd wrth wrando. Teimlai y pregethwr fwy o rwyddineb wrth draethu ei genadwri, a'r bobl fwy o ddyfalwch wrth wrando y weinidogaeth, a bendithid y gair er dychweliad nifer mawr at Dduw, pryd na fyddai nemawr o lefain gan drallod, na thori allan gan lawenydd. Yn y modd yma, fe ymddengys yr un amrywiaeth yn y wedd a'r dull yn ngwaith Ysbryd yr Arglwydd ar galonau dynion, ag a welir yn ngwaith y greadigaeth. Mae y rhyw yn wastad yr un, a'r wedd yn wastad yn amryw. Wrth yr unffurfiaeth y gellir adnabod y rhyw, ond trwy yr amrywiaeth y gellir adnabod pob un o'r rhywogaeth wrtho ei hun. Mae amrywiaeth digonol yn y ddynoliaeth, o ran ei ffurf a'i chyneddfau, i'w gwahaniaethu oddiwrth bob rhywogaeth arall; ond y mae yr amrywiaeth sydd yn eu plith, er hyny, yn aneirif. Felly hefyd y mae yn nheyrnas Mab Duw. Yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn gweithredu, a'r un ydyw ansawdd a thuedd ei weithrediadau; eto, amrywiant lawer yn eu graddau, ac yn eu dull. Myn yr Ysbryd Glân osod argraff ddwyfol ar ei waith, trwy amrywiaeth y ffurf, yn gystal a thrwy unffurfiaeth y rhyw.