Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn gwybod hyny eisoes, mai camgyhuddiad hollol ydyw dweyd fod pregethwyr y cyfundeb yn argymhell eu gwrandawyr i neidio. Pell ydynt oddiwrth y fath ymddygiad. Ond er na roisant erioed annogaeth i neb wneyd hyny, eto fe ddichon iddynt yn achlysurol deimlo gradd o angenrheidrwydd i amddiffyn y sawl a wnaent neidio. Ac fe allai i'r amddiffyniad a roddent, yn y modd yma, fod yn achlysur i ryw rai eu cyhuddo, o gymeradwyo yr arferiad, ac annog rhai i'w defnyddio. Ond fe wel pawb fod gwahaniaeth mawr rhwng annog dynion i neidio, pa fath bynag a fyddai eu teimladau, a'u hamddiffyn pan y dygwyddai eu teimladau ymarllwys yn y dull hwn. Y gwir ydyw, ni annogid neb, ar un achlysur, i neidio mewn addoliad; a gwir hefyd, na chondemnid neb chwaith, os byddai gorfoledd ei galon, am drefn iachawdwriaeth, yn ei gymhell i hyny. Heblaw hyn, nid oedd neidio ond un dull allan o lawer, y dangosid teimladau y fynwes trwyddo. Byddai llefain, canu, a gweddio, codi y dwylaw a'u curo ynghyd, yn arferion mynychach na neidio; annheg, gan hyny, oedd galw y Methodistiaid yn Nghymru yn neidwyr, gan nad oedd yr ystum hyny ond yr anamlaf o'r ystumiau a welid ar y sawl a roddent amlygiad o'u teimladau. Y mae genym, tybygaf, wir achos i achwyn yn erbyn y cam-ddarluniad a roddir o'r cyfundeb, dan yr enw jumpers. O ba le y cafodd awdwyr Seisnig y dysgrifiad, nis gwyddom, megys y darluniad a roddir gan Evans a Buck. Meddai yr olaf yn ei Eirlyfr Duwinyddol, dan y gair jumpers, "Dynion a elwir felly oddiar yr arfer o neidio yn amser addoliad. Dywedir fod yr arferiad wedi dechreu yn y rhanau gorllewinol o Gymru, tua'r fl. 1760. Amddiffynwyd hyn yn fuan mewn llyfryn bychan, gan Mr. William Williams (y bardd Cymreig, fel y'i gelwir ef weithiau), yr hwn lyfryn a ganmolwyd gan bleidwyr y neidwyr mewn cynulleidfaoedd crefyddol. Cymhellai amryw o'r pregethwyr teithiol y bobl i waeddi, Gogoniant, Amen, &c.; i osod eu hunain mewn ystumiau cynhyrfus; ac yn y diwedd i neidio hyd oni flinent, fel ag i syrthio yn fynych ar y llawr, neu ar y maes, lle y cynelid y fath yma o addoliad." Pwy wrth ddarllen yr erthygl hon na ddealla fod neidio yn rhan o'r addoliad, ie, yn rhan hanfodol o hono. Y fath yma o addoliad! fel pe byddai gwaeddi, ystumio, a neidio, mor angenrheidiol a hanfodol i'r addoliad, ag ydoedd darllen, canu, gweddio, neu bregethu.

Deallodd yr ysgrifenydd ddarfod anfon at awdwr y "Sketch of all Denominations," i ymliw ag ef yn achos y darluniad a roisai efe o'r "neidwyr," yr hwn oedd gyffelyb i'r un uchod, ac i roddi iddo wir adroddiad o syniadau y cyfundeb ar y pen hwn, rhag ei fod yn cael ei arwain gan eraill i ledaenu yn ei anwybodaeth, ddysgrifiad anghywir o neb o'i gyd-Gristionogion; a deallodd yr ysgrifenydd hefyd, fod yr erthygl annheg, naill ai wedi ei gadael allan yn llwyr, neu wedi ei liniaru yn fawr, yn rhai o'r argraffiadau diweddaraf o'r gwaith hwnw; ond am hyn ni all sicrhau, am na ddygwyddodd iddo weled yr un o'r argraffiadau hyny.

Dygwyddodd unwaith fod Mr. James o Birmingham mewn rhan o Gymru, lle yr oedd diwygiad grymus ar y pryd, ac iddo gael mantais i weled ei hun