yn perthyn i bob oedran fel eu gilydd, ac yn cael eu cyfaddasu i gyfarfod ag angen a chwaeth pob oedran.
Arferai Mr. Charles, fel y gwnaethai Mr. Griffith Jones o'i flaen, egwyddori neu gateceisio deiliaid yr ysgolion ar gyhoedd, a'u gwrando yn adrodd y pennodau o'r Beibl a ddysgasid ganddynt yn flaenorol. Rhoddai hyn fantais i'r cynulleidfaoedd weled a chlywed pa beth a pha faint a ddysgid yn yr ysgolion, a rhoddai y fantais iddo yntau gyfarch ei wrandawyr am yr angenrheidrwydd o wybodaeth gywir o air Duw, ac am fuddioldeb yr addysg a gyfrenid yn yr ysgol Sabbothol, i gyrhaedd yr amcan hwnw; a gwasgai ar yr holl gynulleidfa i gynorthwyo i gyfranu, neu ynte, os mwy dewisol ganddynt i ddod yn dderbynwyr addysg. Yr oedd yr holwyddori cyhoeddus hwn y pryd hyny yn dra effeithiol, oblegid ei newydd-deb; y pryd hwnw yr oedd llawer yn y cynulleidfaoedd heb fod erioed mewn ysgolion Sabbothol, ac i'r rhai hyny yr oedd atebion yr ysgolheigion yn peri mawr syndod, a mawr gywilydd o herwydd eu hanwybodaeth hwy eu hunain. Cynelid cyfarfodydd mawrion yn achlysurol, pryd yr ymgyfarfyddai lluaws o ysgolion ynghyd, y rhai a holwyddorid ar gyhoedd. Parai hyn fwy o sylw o'r ysgolion yn y cymydogaethau lle y cedwid hwy, ac enynai fwy o lafur a ffyddlondeb yn y deiliaid a'r athrawon. Arferid treulio mis neu ddau i ddarparu ar gyfer y cymanfaoedd hyn, a rhyfeddol yr aidd a gynyrchid yn meddyliau yr ieuenctyd, yn feibion a merched, i ymbarotoi, trwy ddysgu adnodau o'r ysgrythyr i brofi y gwahanol faterion ysgrythyrol yr egwyddorid hwy ynddynt.
Nid anhawdd ydyw i'r darllenydd ystyriol ddychymygu pa effeithiau eu maint a'u llesoldeb a darddai oddiwrth y fath ymarferiad â gair yr Arglwydd. Yr oedd meddyliau miloedd lawer o ieuenctyd Cymru, trwy y moddion hyn, yn dod yn gydnabyddus â gwirioneddau pwysig yr ysgrythyrau; ac yn ol y graddau yr ymgydnabyddai y meddwl â'r gwirioneddau hyn, i'r un graddau y darfyddai yr awyddfryd am yr ofer-gampau, ac y collid yr archwaeth at bleserau ffol yr oes flaenorol. Yr oedd yr ieuenctyd yn denu eu gilydd, bellach, i'r ysgolion, ac i'r oedfaon; cynyddent yn gyflym mewn gwybodaeth ysgrythyrol; a dygid aml un dan ddwys a difrifol deimlad o'u hangen ysbrydol, ac i bryderu am iachawdwriaeth eu heneidiau.
Mawr iawn a fu yr ymdrech i roddi cychwyniad i'r ysgolion hyn, -mwy, fe allai, nag a allwn ni yn y dyddiau hyn ddychymygu. Yr oedd difrawder fel cwsg marwol yn llyffetheirio y bobl gyffredin yn nghylch yr angen am wybodaeth o Dduw, ac o'i air; nid oedd eu rhagfarn, chwaith, yn erbyn crefydd y capelau, er ei fod wedi lliniaru graddau, ddim wedi llwyr ddiflanu; yr oedd awyddfryd y bobl hefyd, yn enwedig y bobl ieuainc, mor gryf at eu hen bleserau, fel yr ymddangosai bron yn ymdrech ofer i geisio eu diddyfnu oddiwrthynt; a mwy digalon na'r cyfan, oedd y gwrthddadleuon a godid gan broffeswyr crefydd, ïe, gan swyddogion eglwysig, yn erbyn rhoddi addysg yn y dull hwn i neb ar ddydd yr Arglwydd. Heb gydweithrediad, amlwg ydoedd na allai y gwaith hwn lwyddo, ac anhawdd iawn oedd cael y