Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/380

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harris at ei gyfaill. Gallwn gasglu ddarfod siomi Syr W. y tro diweddaf y cyfeiria Harris ato, am nad oedd yn y cynulliad nifer digonol yn nghyd i'w gosod dan y Conventicle Act, yn agored i ddirwy.[1] Cawn gyfeirio at hyn eto yn hanes y sir. Nid hir y buy gŵr boneddig hwn fyw ar ol hyn Ysgrifena Mr. Harris at Mr. Whitfield, yn mhen blwyddyn ar ol ysgrifenu y llythyr uchod, a dywed, "Chwi a glywsoch am ddiwedd truenus y gwrthwy nebwr mawr hwnw, Syr W-." Ei ddiwedd oedd syrthio oddiar ei geffyl wrth ddychwelyd o hela, a marw yn y fan. Yr oedd y gŵr hwn wedi tyngu y dialai ar bob Methodist yn sir Ddinbych. Fe ddichon fod ei gynddaredd yn fwy fyrnig, am y bu gorfod arno ddychwelyd yn ol yr arian a gymerasai efe oddiar y trueiniaid mewn ffordd o ddirwyau, a hyny trwy orchymyn y llywodraeth. Hysbysir i ni, yn hanes bywyd Iarlles Huntingdon, ei bod wedi gosod gerbron y llywodraeth y gorthrymder yr oedd y Methodistiaid dano, trwy ymddygiad anghyfiawn yr ynadon, mewn amrywiol barthau o Gymru, a'r canlyniad a fu yn achos Syr W. y bu raid iddo ddychwelyd y dirwyau yn ol. Siomedigaeth a darostyngiad chwerw i'r gŵr mawr ffroenuchel ydoedd hyn; a diamheu ei fod, o herwydd hyn, yn gosod ei fryd ar ddial ar y Methodistiaid yn mhob modd y gallai; ond Duw a'i hattaliodd, trwy alw arno yn ddisymwth iawn i ymddangos o'i flaen ef yn y byd anweledig, lle nad yw tosturi at y tlawd, na derbyn wyneb i'r cyfoethog, yn peri y gŵyriad lleiaf ar gyfiawnder. Teg ydyw chwanegu am hiliogaeth y gŵr uchod, na rodiasant hwy yn nghamrau eu hynafiaid; eithr dangosasant garedigrwydd lawer gwaith, oddiar ryw egwyddor neu gilydd, tuag at olynwyr y bobl a erlidiasid gynt, trwy ganiatâu iddynt ryddid cydwybod i addoli, a thrwy roddi tir yn achlysurol i adeiladu capelau arno. Argoelion hynod o garedigrwydd ydoedd y pethau hyn, pan y cyferbynid hwy â'r gorthrymder a'r dial a ddangosasid flynyddoedd yn ol.

Yr ydym yn barod i addef hefyd, nad oedd holl foneddwyr Cymru yn ymddwyn yn yr un dull sarhaus a haerllug a'u gilydd. Mae coffad anrhydeddus wedi ei wneyd o ŵr boneddig o'r enw Marmaduke Gwynne, Ysw., o'r Garth, yn sir Frycheiniog. Dysgwylid Howel Harris i'r ardal hòno i bregethu; a chan y chwedlau cethin a glywsai yr ynad hwn am Harris, penderodd roddi terfyn ar ei bregethu. Edrychai ar Harris fel gelyn y wlad a'r eglwys, a thybiai mai ei ddyben oedd annog dynionach diwybod a diegwyddor i godi terfysg a chythrwfl yn y wlad. Aeth allan, gan hyny, â'r Riot Act yn ei logell, gan fwriadu ei darllen, ac yn ol hyny wasgaru y gynulleidfa. Ond wrth fyned allan, dywedai wrth ei wraig, "Mynaf glywed y dyn fy hunan, cyn y rhoddaf ef mewn dalfa." Hyn hefyd a wnaeth. Yr oedd pregeth Harris, pa fodd bynag, mor efengylaidd, yn tueddu i ddeffro dynion diofal, i osod arswyd ar ddynion drwg, ac i ddyddanu yr edifeiriol, a'i ddull mor effro a serchog, nes peri i Mr. Gwynne feddwl ei fod yn gyffelyb i'r apostol-

  1. Yn ol y ddeddf hon, os byddai pump o ddynion dros 16eg oed yn gynulledig, heblaw teulu y tŷ, i addoli yn amgen nag yn ol ffurf yr eglwys sefydledig, carcherid pob un am dri mis, neu dalu £5: y pregethwr i dalu £20, a gŵr y tŷ i dalu £20.