udgyrn, a phadelli ffrïo; weithiau trwy lusgo y pregethwr trwy drais, a'i luchio yn ddidrugaredd, nes ei ymlid o'r ardal; weithiau trwy chwythu mŵg drewsug i'r ystafell lle yr ymgynullid, nes rhoi gorfod ar bawb gilio o'r ystafell, gan rym y sawyr drewedig; weithiau cynllwynid am y pregethwr, pan y ceid allan i ba le y byddai ar fedr myned, gan ei faeddu a'i archolli yn y modd creulonaf, a phrin y gadewid ei einioes iddo. Lluchient gerig weithiau trwy ffenestr capel gyda'r fath rym nes yr aent allan drwy ffenestr arall, a hyny ar amser addoliad, fel y byddai y gwrandawyr mewn perygl bywyd. Ar eu gwaith yn dyfod allan o'r capel, ymosodent arnynt drachefn. Ni rusent eu lluchio â cherig nes y byddai eu gwaed yn llifo. Ymguddient y tu ol i'r cloddiau, er mwyn cael gwell mantais i ergydio at y trueiniaid pan yr elent heibio.
Ond er maint oedd creulondeb yr erlidwyr, yr oedd rhyw amddiffyniad rhyfeddol dros eu bywydau; dygwyddodd llawer amgylchiad i roddi siomedigaeth chwerw i'r erlidwyr; a llawer gwaith yr ymddangosodd troion nodedig, fel gorchwyliaethau barnol, yn cyfarfod â dynion a flaenorent yn yr erlidigaeth. Yr oedd pregethu mewn lle a elwid Bryn-Tani, yn mhlwyf Llanor, sir Gaernarfon, yn fuan ar ol cychwyniad y diwygiad; a byddai y canghellwr Owens y soniasom o'r blaen am dano, a'i fintai, yn ddyfal yn eu hymosodiadau yn erbyn y crefyddwyr, ac yn gwylied pa bryd y byddai moddion yn cael eu cynal yno, er mwyn erlid y crefyddwyr. Yr oedd yn y plwyf ŵr boneddig o'r enw Mr. Llwyd, Ty-newydd, yr hwn oedd ysgolhaig rhagorol; ond yr oedd y canghellwr ac yntau mewn llid anghymodol i'w gilydd. Pan y deuai y canghellwr a'i blaid i erlid, byddai y gŵr boneddig yn sicr o fod wrth y drws; a gofynai iddo, "Beth yw dy neges di yma, John Owen?" Yna troent i ymgecru yn Saesonaeg, a thrachefn yn Lladin, ac eilwaith yn Groeg; a phan na allai y canghellwr ddal yr ymddyddan i fyny yn Groeg, gwawdiai y boneddwr ef yn y modd mwyaf trahaus, a dywedai, "John, gollyngais yn anghof fwy nag a ddysgaist ti erioed." A thra y byddai y gwŷr hyn yn ymryson oddi allan, cynelid y cwrdd crefyddol oddifewn mewn heddwch, ac o dan fendith. Yr oedd yma olygfa fel pe buasai "Satan yn bwrw allan Satan, neu Satan wedi ymranu yn ei erbyn ei hun." "Yr oedd y canghellwr yn ddyn hyf a gwrol," meddai Robert Jones, "ac yn rhagori o ran doniau naturiol ar y rhan fwyaf o'i frodyr parchedig; a thrwy hyny, daeth lluaws ar y cyntaf i wrando arno; a meddyliodd y werin anwybodus, nad oedd ei fath ef yn y byd. A chan fod y gyfryw dyb dda gan y wlad am dano, cafodd ei athrawiaethau cableddus rwyddach derbyniad. Dygwyd amryw o rai gwirion a diniweid o'i flaen yn achos eu crefydd; yntau a ymddygai tuag atynt fel llew creulon, gan daranu bygythion yn eu herbyn, a'u cospi cyn belled ag y goddefai y gyfraith, os nid yn mhellach. A diau, pe buasai llywodraeth y pab heb ei diddymu o'n gwlad, y buasai ef gyda hyfrydwch, fel Boner gynt, yn eu llusgo yn ddidrugaredd i'r fflamau tân." Yr oedd ganddo yn y cyfamser arddwr, yr hwn oedd hefyd yn ddyn medrus, yn ysgolhaig, ac yn brydydd. Yr oedd y gŵr yma yn glochydd i'r cang-