Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/421

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi yr un uchod. Nid yw enciliadau un neu amryw, pa un bynag ai eu bwrw allan a wneid, ai ymadael o honynt eu hunain, ddim yn cyfansoddi ymraniad mewn cyfundeb. Yn hanes Methodistiaid Calfinaidd Cymru, ni a gawn fod rhai yn awr ac eilwaith wedi eu bwrw allan am ŵyro, fel y tybid, at egwyddorion gau, a bod eraill, ar ryw ysgogiad neillduol a gymerodd le, wedi cilio ymaith; eto ni chyfrifid y naill na'r llall yn ymraniad. Golygwn, gan hyny, na fu dim ond un ymraniad erioed yn y cyfundeb hwn, acihwnw mewn amser gael ei iachâu, ïe, gallwn chwanegu i hwnw fod yn achlysur lles a sefydlogrwydd mwy yn yr amseroedd dylynol.

Yr ymosodiad mwyaf gwenwynig ac ofnadwy ei duedd o bob un oedd yr un a wnaed gan fath o benrhyddid neu antinomiaeth. Un o brif nodweddiadau, ac un o ragoriaethau penaf, gweinidogaeth yr hen dadau, oedd yr ardenigrwydd nodedig a roddid yn eu pregethau i athrawiaeth gras, -i iawn Crist, fel unig sylfaen gobaith pechadur, -i gyfiawnhad pechadur trwy ffydd yn unig, heb weithredoedd y ddeddf. Arhoent yn hir ac yn hyfryd uwchben digonolrwydd perffaith aberth Mab Duw, a'i gyfiawnder, fel nad oedd raid with rinweddau na haeddiannau dynol mewn ffordd o osod dyn mewn ffafr a chymeradwyaeth gyda Duw. Dynoethid gyda grym a goleuni mawr, anmherffeithrwydd ac anrigonolrwydd cyfiawnder dyr. Dangosid mai "megys bratiau budron y mae ein holl gyfiawnderau." Datgenid yn gadarn a ffyddlawn yr angenrheidrwydd o farw i'r ddeddf, am gyfiawnhad na santeiddhad trwyddi; ac am ei bod hi yn wan i'r pethau hyn trwy y cnawd, yr anfonodd Duw ei Fab ei hun, yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni.

Rhoddid lle mawr iawn i'r egwyddorion uchod: egwyddorion ag sydd, yn ddiamheuol, yn cyfansoddi mêr a brasder yr efengyl; egwyddorion ag sydd yn goron i'r efengyl, ac yn fywyd i bechadur; egwyddorion, pe gadewid hwy o'r neilldu, a ddyosgai y weinidogaeth o bob cymhwysder i gyfarfod â chyflwr colledig pechaduriaid euog. Fe ddichon, er hyn oll, y gallai rhoddi arbenigrwydd neillduol i'r canghenau uchod, heb ddigon o ofal i'w cyferbynu â'r egwyddorion cysylltiol, roddi achles i ryw fath o ddynion-dynion o feddwl llygredig, neu ddynion o fympwy hunanol, i dybied nad oedd santeiddrwydd calon, a glendid buchedd, ddim yn angenrheidiol. Gan y bernid mai i ryddid y galwyd hwy, tueddai rhai i " arfer eu rhyddid yn achlysuri'r cnawd." Gan nad trwy weithredoedd y ddeddf yr oedd cyfiawnhau dyn, ond trwy ffydd yn unig, tybid fod y "ddeddf yn ddirym trwy ffydd;" nad oedd raid wrthi yn rheol ymddygiad, gan nad oedd achos am dani yn ddefnydd cyfiawnder: ond fod y credadyn i fod yn ddibris o'i santeiddrwydd, gan ei fod yn ddiogel oddiwrth ei melldith. Nid oes achos i ni synu fod y fath gasgliad a hyn yn cael ei wneyd, ac nid oes lle chwaith i synullawer, os oedd casgliad o'r fath yma yn ymgymhell i feddwl dyn craff oddiar y wedd a geid ar weinidogaeth y tadau. Oblegid yr oedd yr apostol Paul yn dysgwyl y byddai i'r dull a'r modd y gosodai ef ei hun gyfiawnhad pechadur allan, fel yn cymeryd lle trwy ffydd yn unig, yn achlysuro casgliad o'r fath. "Beth wrth