Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/433

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion haerllug, nes i Mr. P. Williams fethu dal yn ei hynawsedd arferol; ac felly rhwng y ddau, fod coffa annymunol am y gymdeithasfa hòno ar ol iddi ddarfod, oblegid yr ymrysonfa. Yn ol a allwn gasglu, dichon fod gradd o wirionedd yn y darluniad hwn. Nid oedd Rowlands ieuanc yn meddu ysbryd ei dad. Hwyrach y tybiai yn ormodol fod llywyddiad achos y Methodistiaid yn dref-dadaeth iddo, a dangosai, yn awr ac eilwaith, fwy o naws arglwyddaidd nag oedd weddus.[1] Cawn weled eto yn mlaen, ddarfod i'r gŵr mawr hwn ddangos, mewn amgylchiadau eraill, lawer gormod o'r dyn, a llawer rhy fychan o'r Cristion. Nid rhyfedd, ynte, i'w dad ddweyd wrtho, ar ol y drafodaeth hon ag achos Peter Williams, "Nat! Nat! ti a gondemniaist dy well."

Ymddengys i Daniel Rowlands ymadael o'r byd chwe' blynedd o flaen Peter Williams, a thua'r amser y daeth y llogell-Feibl bychan allan o'r wasg. Yr oedd y ddadl, pa fodd bynag, wedi dechreu rai blynyddau cyn hyny; ac er mor dyner oedd teimladau yr hen Rowlands tuag at y brawd cyhuddedig, fe ymddengys nad oedd yr hen dad yn gallu cymeradwyo rhai pethau ynddo. Ni a gasglwn hyn oddiwrth ryw ymadrodd a ddefnyddir gan Mr. Williams yn y farwnad a wnaeth ar farwolaeth Rowlands,

"O, 'mrawd Rowlands, ni'th anghofiaf,
Ti roddaist imi lawer sen;
Y'mhob tywydd, y'mhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai mhen."


Gan addef yn rhwydd y dichon fod rhyw bersonau wedi ymddwyn yn annoeth ac anfrawdol tuag ato, yr ydym er hyny yn methu cael lle i feddwl fod gan y Methodistiaid, fel y cyfryw, un amcan i ddrygu yr hen frawd, na bod dim cymhelliad iddynt geisio at hyny, gan y perchid ef yn fawr ganddynt. Yn hytrach na pharodrwydd i'w ddarostwng a'i ddrygu, ni a allwn feddwl mai haws a fuasai ganddynt edrych heibio ei waeleddau, pe gwaeleddau hefyd, ar gyfrif ei oedran a'i ddefnyddioldeb. Pa les a allai ei ddarostyngiad fod i'r cyfundeb? A pha gysur a allai ymwrthodiad ag ef fod i'r rhai a gydnabyddent yn rhwydd ei lafur maith, a'i wasanaeth gwerthfawr? Os gwnaed cam ag ef, o gamsyniad y bu hyny, ac nid o fwriad ;-os bwriwyd ef allan gyda gormod o ffrwst a haerllugrwydd, fe wnaed hyny mewn poethder dadl, ac oddiar syfrdandod yr ymryson; ac os ymddyeithrio yn ormodol a wnaed ar ol hyny oddiwrtho, fe wnaed hyny, ond odid, am yr ofnid y buasai yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf, gan fod profion ar gael fod yr hen frawd yn dal yn gadarn wrth yr egwyddorion a barasent yr ymrysonau.

Oddiwrth yr hyn a fedrais gasglu am y drafodaeth annyddan hon, yr wyf yn cael fy arwain i'r penderfyniadau canlynol :

1. Fod profion ar gael, nad oedd syniadau y Parch. Peter Williams am y Drindod ddim yn unol â syniadau y rhan fwyaf o'i frodyr y Methodistiaid.

  1. Ysgrifena gŵr eglwysig ataf, gan ddywedyd, Fod Mr. Rowland Hill yn tystio am N. Rowlands, mai y dyn balchaf ydoedd a welsai erioed.