Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/468

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y cyfamser, diangodd Mr. Jones, Maenorowen, i'r nefoedd, i fwynhau yn berffaith yr hyn y cafodd flaen-brawf mynych o hono eisoes. Dygwyddodd hyn yn Awst, 1810, ac yn mis Hydref canlynol, yr oedd cyfarfod misol i gael ei gynal yn Llandudoch, ger Aberteifi, i'r hwn y penderfynwyd anfon cenadwri o Dŷ Ddewi, i ddeisyf ar y cyfarfod misol i anfon yn ddioed i'r gymdeithasfa chwarterol, yr hon oedd i fod yn Abertawe yr wythnos ganlynol, i ddymuno ar y brodyr cynulledig yno " i gymeryd sefyllfa y Deheudir, ac yn neillduol sir Benfro, i ystyriaeth, gan y prinder oedd yn eu plith o weinidogion i weinyddu yr ordinhadau sacramentaidd, ac i ddarparu gogyfer â'r angen hwn, trwy neillduo rhai o'u plith eu hunain, i holl waith y weinidogaeth." Ymddengys fod marwolaeth Mr. Jones wedi prysuro hyn nid yn unig oblegid fod y gwrthwynebiad yn llai; ond hefyd, neu yn hytrach, oblegid fod yr angen yn fwy. Yr oedd yn byw yn y wlad dri eraill o offeiriand Methodistaidd, fel y gellid eu galw; eto, yr oeddynt hwy yn gwasanaethu pob un ei eglwys ei hun; a disgynai gweinyddiad y sacramentau yn y capelau gan amlaf, os nad yn hollol ar Mr. Jones; o leiaf yn mlynyddoedd diweddaf ei oes. Wedi ei symud ef i'w orphwysfa, yr oedd sefyllfa y wlad hon, mor amddifad a gwledydd eraill, a deffrôdd y brodyr i ymofyn am gyflenwi y diffyg.

Y cyfryw ar y pryd oedd yr amgylchiadau a barai anfon y genadwri uchod i Landudoch. Ond er fod gan yr offeiriaid ag oeddynt yn aros, eu heglwysi i'w gwasanaethu, yr oeddynt yn arfer a chymysgu a'r Methodistiaid, yn enwedig yn eu cyfarfodydd cyhoeddus—cyfarfodydd misol a chwarterol; ïe, edrychent ar lywyddiaeth y cyfarfodydd hyny, megys wrth gwrs, yn drefdadaeth iddynt. Yr oedd y gwŷr parchedig yn bresenol yn y cwrdd misol hwn, ac yn llywyddion arno fel arferol. Pan gafodd y genad o Dŷ Ddewi, Mr. Thomas Rees, Trepiuet, gyfle, nid oedodd osod y genadwri ger bron. Gwrandawyd arno gyda phob dystawrwydd nes iddo draddodi ei neges. Yna gofynwyd iddo, gan ddisgwyl y buasai yr atebiad yn foddion i ddirymu effaith y genadwri, neu ynte, y cawsid achles i fwrw y cenadwr a'i genadwri allan, fel un heb hawl ganddo i fod yn bresenol, "Er ys pa bryd yr oedd ef gyda'r achos?" Gwelwyd, pa fodd bynag, yn yr atebiad, fod y genad yn rhy hen i ymddwyn felly tuag ato, a defnyddiwyd yr ateb i ddyben arall, a dywedent, "Gresyni fod gwr wedi bod cyhyd o amser gyda'r gwaith, yn troi allan yn rhwygwr iddo."

Bellach yr oedd y gwersyll urddasol wedi cwbl ddeffroi, ac yn ymddangos yn gynhyrfus iawn, a gofynwyd,

"Pa fath weinidogion ydych chwi yn eu ceisio?"

"Dynion o ddewisiad a neillduad y corff," oedd yr ateb, "heb i law esgob eglwys wladol fod ar eu penau er eu cysegru."

Os oedd hi yn gynhyrfus o'r blaen, aeth bellach yn llawer mwy. Ymollyngwyd i fytheirio bygythion yn erbyn y cenadwr a'i gais, gan ei alw, "Y rhwygwr! Y terfysgwr! Y cyfeiliornwr! Y bradychwr! a'r cyffelyb. Arddangosid ef dan y fath enwau, a'r fath gymeriad, na pherthynent i neb ond i heretic haerllug, a drwg. Yr oedd yr ystorm yn arswydus; ac oni bai fod cydwybod