Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/471

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar Mat. 14.24; "A'r llong oedd weithian ynghanol y môr, yn drallodus gan dònau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd." Rhediad ei bregeth ar y testyn hwn oedd yn debyg i hyn:—

1. Nad yw cyfarfod a gwrthwynebiadau mewn peth, yn brawf o bechadurusrwydd y peth hwnw. Oblegyd aethai y dysgyblion y tro hwn i'r môr ar gais Crist ei hun, er hyny cyfarfuant a gwynt gwrthwynebus.

2. Nerth a diogelwch dysgyblion Crist, yn nghyflawniad eu dyledswyddau ydyw, fod Crist ar y mynydd yn gweddio.

3. Mae y diwedd dedwydd i bawb a ddalio yn ffyddlawn yn eu gyrfa yn wyneb gwrthwynebiadau, fydd i Grist ddyfod atynt, a gostegu yr ystorm.

Amcanai y gŵr parchedig i gymhwyso y sylwadau hyn at yr amgylchiad dan sylw, "ac yr oedd y sylwadau hyny," medd fy hysbysydd, "yn hynod o rymus a phriodol."

Dylid crybwyll yn y lle hwn fod aml un yn mysg y pregethwyr a'r aelodau Methodistaidd y pryd hwn, yn anfoddlawn iawn i'r symudiad, yn gystal a'r nifer fwyaf o'r offeiriaid. Cyfarfyddai Mr. Williams weithiau â'r gŵyr hyn, a difyrus fyddai ei glywed yn dynoethi eu pengamrwydd yn hyn o beth. "Clywais ef yn ymddadlu a hen flaenoriaid ag oedd yn selog dros yr hen drefn," medd ein gohebydd, "ac yn dwrdio yn erwin. Ni fedraf ddeall,' meddai, beth yn y byd a'ch boddia chwi, y ffyliaid dylion:—ni wna offeiriad rheolaidd mo'ch tro chwi, na gweinidog ymneillduedig chwaith;—hen offeir iad ysgymunedig a raid i chwi ei gael, onide ni chymerwch ef. "

Dywedasom eisoes, nad oedd Mr. Williams o'r dechreuad ddim mor wrthwynebol i'r ysgogiad newydd ag oedd y rhan luosogaf o'i frodyr urddedig; eto y mae yn ymddangos ddarfod ei lithio, yn nghychwyniad y drafodaeth i gydweithredu a hwy mewn gwrthwynebiad i'r ymgais. Yr oedd ef yn nghymdeithasfa y Bala, yn y fl. 1810, tybygid, pryd y dygodd Mr. Charles ei gynllun ymlaen o'r modd y byddai yn ddymunol gweithredu, a'r pryd hefyd y cytunodd cymdeithasfa y Gogledd ymron yn unllais, i weithredu yn ol y cynllun hwnw. Ar yr achlysur hwn anfonwyd llythyr oddi wrth gymdeithasfa y Bala, at gymdeithasfa y Deheudir, yr hon oedd yn fuan i ymgynull yn Llangeitho, yn cynwys penderfyniad y brodyr yn Ngwynedd. A chyda Mr. Williams yr anfonwyd y llythyr. Naturiol ydyw meddwl fod teimladau pryderus yn terfysgu meddwl Mr. Williams ar y pryd. Yr oedd ef yn awr yn gydnabyddus ag ansawdd yr achos mewn De a Gogledd. Canfyddai fod y llif yn rhedeg yn gryf yn y Deheubarth o blaid yr ysgogiad, a bod y brodyr yn Ngwynedd yr un modd o'r un meddwl. Gwyddai hefyd yr ochr arall, fod yr offeiriaid yn dra gwrthwynebol i'r un amcan fyned ymlaen, a'i fod yntau ei hun wedi lled addaw sefyll gyda hwy. Pa lwybr a gymerai, oedd yn awr yn terfysgu ei feddwl. Yr oedd peth gofal ganddo yn ddiau am ei enw a'i gymeriad fel dyn cyson a ffyddlon; a pharai hyn iddo ymholi pa beth a wnai i'r cydsyniad a roisai i gais yr offeiriaid? A phan y gogwyddai y penderfyniad i ddal at ei amod i'w frodyr urddedig, gofynai pa fodd y gallai ymateb cydwybod i Dduw? Yr oedd argraff y drafodaeth yn y Bala