Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYNWYSIAD.

—————————————

—————————————

Y PEDWERYDD DOSBARTH:

SEF, HANESIAETH Y SIROEDD.

PRIF—LINELLAU YN HANES SIR FORGANWG.

PENNOD I.—AMGYLCHIADAU CYCHWYNOL METHODISTIAETH Y SIR.

Yn cynwys, Y dechreuad, yn 1739—Ymweliadau Harris â'r wlad—Gwedd grefyddol y wlad ar y pryd—Cymdeithasau a Chynghorwyr yn y fl. 1742—Adroddiadau John Richard a Thomas Williams—Watford, ger Caerffili—Capel Groeswen—Y Goppa Fach—H. Harris yn y Waengron a Dantwyn—Hopkin John Hopkin, y Saermaen—Mr. John Walters, Gwynlais-ucha', a Mr. G. Morgan, Glynhir

PENNOD II.ADGOFION AM EGLWYSI BOREOL Y WLAD.

Yn cynwys, Hanes Llansamled—Gwedd anghrefyddol yr ardal—H. Harris yn ym. weled a hi—Pregethu yn y Cwm am ysbaid 40 mlynedd—Y Bath, ger Treforris—Hopkin Davies—Evan, o'r Dalchaba, a Llywelyn John—Hanesyn am Dafydd Morris—John Richard yr arolygwr—Edward Thomas a William Powel — Y ddau Roger—Adfywiadau—Damwain arswydus—Treforris—Llwyn—brwydrau

PENNOD III.—PREGETHWYR AC EGLWYSI BOREOL Y SIR. (1)

Yn cynwys, Enwau hen Bregethwyr y wlad——Eu llythyr at y Gymdeithasfa—Parch. D. Williams—W. Thomas, Pil—Whitfield yn Abertawe—Harris yn pregethu yno—Richard William Dafydd—Ymweliadau Iarlles Huntingdon—Effeithiau yr ymraniad, a Sandemaniaeth Mr. Popkins—Capel i'r Cymry—Pregethwyr a fu, neu y sydd yn preswylio yn y dref—Capel Seisonig gan y Methodistiaid yn y dref—Penclawdd.

PENNOD IV.—EGLWYSI A PHREGETHWYR BOREOL Y SIR.(2)

Yn cynwys, Hanes y Dyffryn—Cychwyniad yr achos—Gwrthwynebiadau—Risiart Thomas, Marteg, ac Evan Thomas, Dyffryn-ucha—Dafydd a Mary John, Dyffryn-isa'— Jenkin Thomas, Penhydd—Hynodrwydd ei gymeriad, ac amgylchiadau ei oes—Daniel o'r Constant, a William Owen, y gwehydd—Castell—Nedd—Harris yn pregethu yno— Whitfield hefyd a D. Rowlands—Parch. W. Davies—Hen gapel Gyfylchi—Creunant— Maesteg—Y Babell a'r Spelter

PENNOD V.—EGLWYSI A PHREGETHWYR BOREOL Y SIR.(3)

Yn cynwys, Hanes Aberthyn—Cymdeithas eglwysig yma yn y fl. 1742—Adeiladu Capel—David Williams yn gweinidogaethu ynddo—Ymraniad ar ol ei farwolaeth—Llangan a'i hamgylchoedd—Parch. David Jones—Ansawdd y wlad ar ei ddyfodiad—Adeiladu capel Salem—Cynulliadau misol Llangan—Llafur teithiol Mr. Jones—Gwylmabsaut Llanbedr—gwrthwynebiad y Clerigwyr i Mr. Jones—cymeriad ei weinidogaeth