Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymddengys fod tua 63 o aelodau yn y GROESWEN. Yr oedd 5 o honynt yn arfer cyngori; 1 yn ysgolfeistr, 2 yn ddiaconiaid, a 2 yn olygwyr yr adeiladau. Dywedir fod tuag 48 o'r aelodau "wedi eu cyfiawnhau," a'r gweddill "dan y ddeddf."

Gellir meddwl mai y gymdeithas hon yn y Groeswen oedd yr un fwyaf blodeuog yn y dosbarth de-ddwyrain o'r wlad. Yn LLANTRISAINT yr oedd cymdeithas o 21 o aelodau, ac 8 ar brawf. Am yr aelodau hyn y dywedir, "Mae y brodyr hyn wedi hir fyw ar eu teimladau, ac y mae rhai o honynt eto heb ddysgu byw trwy ffydd. Cyfarfuant a phrofedigaethau taullyd, a hi fu yn galed arnynt, ond yn awr y mae eu ffydd, a'u cariad, eu tynerwch, a'u hunan-ymwadiad, yn cynyddu. Y maent o naws ddiniwed, ac yn rhodio yn ddyfal gyda Duw. Mawr y gallu a roddir iddynt i alw pechaduriaid at Grist; mae yma ddigon o bechaduriaid o amgylch rhwyd yr efengyl, a rhai a ddelir ynddi. Bendigedig a fyddo enw yr Arglwydd! Mae tyngwyr, meddwon, ac erlidwyr wedi profi daionus air Duw, ac yn awr yn newynu ac yn sychedu am yr Arglwydd Iesu. Oes, mae yma hen bechaduriaid rhagfarnllyd, nid yn unig yn addef fod bys Duw yn hyn, ond y maent yn wir ddrylliedig am eu pechodau, ac yn ymofyn am hawl yn ngwaed Crist. Bu Howel Griffiths o'r gymdeithas yma yn afiach, ond yn awr yn dymuno fod diolchgarwch yn cael ei ddychwelyd am ei adferiad."

BYRTHYN neu ABERTHYN. "Fe gynwys y gymdeithas hon 22 o aelodau. Mae yma un brawd yn cael ei gymhell, yn groes i'w ewyllys, i gablu, trwy ddyweyd nad yw Crist yn Dduw ; ac nid oes dim yn debyg i lwyddo gydag ef, nes y delo yr Arglwydd ei hun."

ABERDDAW. "Mae yma ddeg o aelodau. Nid adwaen i yr un gymdeithas dan haul, y mae y geiriau yn Heb. viii. 11. yn fwy cymhwys iddynt, Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd; oblegid hwynt-hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt.' Hyd y deallwyf fi, y maent oll yn adnabod yr Arglwydd Iesu, maent yn llewyrchu yn nghanol cenedlaeth drofaus, fel nad oes gan neb ddim i roi yn eu herbyn.'

ST. NICHOLAS. "Fe gynwys hon 22 o aelodau. Mae tri yn ddiweddar wedi marw yn yr Arglwydd. Mae y gymdeithas hon mewn cyflwr marwaidd, ffurfiol, a difater; ac nid oes dim a all ei deffro ond llais y Priodfab."

DINAS-POWYS. "Yn y gymdeithas hon y mae 15 o aelodau, ac hyd y gwn i y mae 8 o honynt wedi eu cyfiawnhau, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu."

PENTYRCH. "Cynwys hon 6 o aelodau, gan mwyaf mewn agwedd oer a ffurfiol."

LLANEDEYRN. "Y mae yma 4 o aelodau; 3 o honynt yn adnabod yr Arglwydd Iesu, a'r llall dan y ddeddf.”

GLYNOGAR. "Nid oes yma ond un aelod a hwnw yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân. Ond y mae yna 12 neu 15 o wrandawyr."