Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar hyd y cyfarfod yn lled aflonydd, ac yn symmud o'r naill le i'r llall, yn cerdded yn ol ac yn mlaen, â'i ddwylaw ar ei gefn, a'i ffon yn ei ddwylaw. O'r diwedd, galwodd y cadeirydd ar y gŵr hwn i ymddiddan â swyddogion newyddion. Yna gofynodd yntau i un o honynt—Pa lyfrau fyddwch chwi yn arfer eu darllen?' Yr attebiad oedd—Nid oes genyf lawer o lyfrau i'w darllen.' Yna gofynodd iddo—A ydyw gwaith Jonathan Edwards ar Hanes y Prynedigaeth genych?' Yr atteb ydoedd 'Nac ydyw. Gofynodd drachefn—'A ydyw Y Serchiadau Crefyddol genyoh?' 'Nac ydyw. yniad diweddaf ydoedd—'A ydyw Esboniad Scott ar y Prophwydi genych? Yr attebiad i hwn etto ydoedd—Nac ydyw. Cofier mai llyfrau cyfieithiedig ganddo ef oedd y rhai hyn. Yna tröai at y cyfarfod, a gofynai'Pa reswm yw gosod dyn fel hyn yn fugail ar eglwys?' Y mae brodyr ieuaingc yr oes hon yn barod i ofyn—Pwy oedd hwn? Dyma Thomas Jones, Amlwch—y gŵr oedd hanner can mlynedd o flaen ei oes mewn rhai pethau. Yr oedd yma hen frodyr anwyl eraill—megys, Thomas Owen, Llangefni; Griffith Davies, Nebo; a John Jones, Bethania. Yr oedd yma ddynion ieuangach—dynion a ddaethant yn brif ddynion y Cyfarfod Misol; megys, y Parchn. Hugh Hughes, Beaumaris, a Robert Hughes, Gaerwen. Yr oedd yma nifer mawr o bregethwyr, heb eu hordeinio, a ddylasent fod wedi eu hordeinio er's blynyddoedd— megys, Hugh Jones a William Roberts, Caergybi; William Williams, Ty'n-y-maen (o'r Tŷ calch wedi hyny); William Charles, Gwalchmai; Richard Roberts, Llanerchymedd; David Davies, Caergybi; a John Charles, Tabernacl. Yr oedd yma ddau ŵr ieuangc—Ebenezer Evans, Bodedern, a William O. Williams, Tŷ mawr. Yr oedd hefyd dri brawd newydd ddyfod o siroedd eraill; sef, John Roberts, Llanerchymedd; Griffith Williams, Cemmaes; a'r Parch. John Phillips, Tabernacl; yr hwn oedd yn ŵr anwyl a dylanwadol yn y Cyfarfod Misol. Yr oedd yma flaenoriaid o radd uchel yn y cyfnod hwn— megys, David Roberts, Mynydd-y-gof; John Williams, Fron goch; John Owen, Fferam isaf; Owen Thomas, Gwalchmai; Hugh Hughes, Tŷ newydd, Llangristiolus;