Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd; o ganlyniad, byddai yn myned i Rosmeirch, capel yr Annibynwyr. Bu yn proffesu Crist am 67ain o flynyddoedd. Bu farw Mawrth 29ain, 1815, yn 95ain mlwydd oed.

MORRIS EDWARD, Gareg gam, a'i fam, a agorasant eu drws i dderbyn pregethu yr efengyl yn ei ffurf Fethodistaidd mor foreu a'r flwyddyn 1748; a chadwodd Morris Edward ef yn agored wedi marwolaeth ei fam—yn ol un hanes, hyd oni adeiladwyd capel. Os yw yr hanes hwn yn gywir, bu pregethu yma am o ddeutu 25ain o flynyddoedd. Dywedir i'r fam a'r mab gael blâs ar yr efengyl yn ei ffurf Fethodistaidd wrth wrandaw ar Howel Harris yn pregethu, iddynt ei wahodd i Gareg gam i bregethu, ac iddo yntau gydsynio â'u cais. Yn y bregeth hon o eiddo Harris yn Nghareg gam, dywedir, y dychwelwyd Evan Thomas, Maes, yn mhlwyf Llanfair-yn-nghornwy, meddyg esgyrn enwog; Richard Thomas, Ty wian; Thomas Phillips, Pen'rorsedd; a Richard Parry, Llanflewyn. Ceir Evan Thomas, Richard Thomas, a Thomas Phillips, yn olygwyr eglwys Llanrhyddlad yn yr ail gyfnod. Y mae yn debyg fod Morris Edward wedi marw cyn y flwyddyn yr ysgrifenwyd enwau y gwyr hyn yn llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol, neu buasai ei enw yntau i lawr yn eu plith.

MORRIS, Tyddyn bach, Llanbabo, a arferai dderbyn pregethu i'w dŷ weithiau, a chynghori ychydig. MORSLEY, Careg lefn, a agorodd ei dy i dderbyn yr efengyl yn y pregethiad o honi.

THOMAS WILLIAMS, o'r Pentre—bwäau, yn mhlwyf Llandrygarn, mab i William Thomas Owen, o'r Fagwyr (ac wed'yn o'r Tŷ mawr, Llantrisant), oedd yn ŵr hynod. Yr oedd o dymmher addfwyn ac ennillgar, a bu pregethu yn ei dŷ am flynyddoedd yn Mhentre-bwäau, ac wed'yn yn Nhy'n-y-merddyn, yn Nghaergeiliog. WILLIAM THOMAS, Glan-y-gors, a dderbyniodd bregethu i'w dŷ yn achlysurol; ac o blegid hyny, bu raid iddo ymadael, er ei ddirfawr golled, gan ei fod wedi adeiladu tŷ, a thai i'r anifeiliaid, ar ei draul ei hun. 'Gwyn eich byd pan y'ch erlidir o achos cyfiawnder.'

Yr oedd hefyd chwiorydd Methodistaidd hynod yn y