HANES YR ACHOS
YN NOSBARTH COLWYN BAY.
LLANELIAN.
Pwy sydd heb glywed am y lle hwn? Y mae yn hynod ar lawer cyfrif, nid yn unig ar gyfrif y Ffynon adnabyddus, ac ar gyfrif y ffaith mai yma y ganwyd ac y bu farw y bardd John Parry, awdwr "Myfyrdod mewn Mynwent" (a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1814), eithr hefyd y mae yn lle hynod ynglŷn â chrefydd, ac yn arbenig yn nglŷn â Methodistiaeth. Ond cyn dyfod at hanes yr achos yn uniongyrchol, bydd i ni gyfeirio ychydig at hanes y Ffynnon, oblegid gwasanaetha hyn yn arbenig i roddi i'r darllenydd syniad am sefyllfa yr ardal a'r cylch, a'r wlad yn gyffredinol, yn yr amseroedd hyny. Ceir fod lluaws o Ffynnonau hynod yn Nghymru yn yr hen oesoedd, ond dywedir fod Ffynnon Elian yn un o'r prif rai ohonynt, gan y credid fod ynddi allu i niweidio yn gystal a llesoli- cysylltid melldith a bendith gyda hi, a bu adeg y byddai yr enw yn ddychryn. Creda rhai ei bod yn cael ei galw ar enw Eilian ab Gallgu Redegog, o hil Cadrod Calchfynydd, a thybir ei fod ef yn byw oddeutu 600 O.C., tra mai traddodiad arall am ei dechreuad ydyw fod meudwy yn digwydd myned heibio iddi unwaith, ac yr oedd ef yn gyfryw sant a gawsai unrhyw beth a ofynai am dano. Aeth yn wael ar y daith. Eisteddodd ar ochr y ffordd. mewn trallod, a gweddiodd am ddwfr i'w yfed, a gwrandawyd ef. Tarddodd ffynnon loew yn ei ymyl: yfodd ohoni, a llwyr wellhaodd. Ar ol gwella, gweddiodd. drachefn ar i'r ffynnon hono fod yn foddion i wneyd i bawb a ofynai iddi mewn ffydd beth bynag a ddymunent.