Tudalen:Methodistiaeth yn Nosbarth Colwyn Bay.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwy hyn, a moddion eraill cyffelyb, daeth y wlad i gredu yn rhyfedd ynddi, ac anhawdd dyweyd y twyll a'r ofergoeledd a fu yn nglŷn â hi am ganrifau. Fel un enghraifft ddangos y sefyllfa, dodwn yma hanes a geir yn Ngoleuad Gwynedd,' am Mai, 1819, am y Frawdlys Chwarterol a gynnelid yn y Wyddgrug, Ebrill, 1819, a cheir mai un o'r achosion gerbron oedd yn nglŷn â Ffynnon Elian. Ymddengys fod un Edward Pierce, Llandyrnog, yn dwyn cyhuddiad yn erbyn un John Edwards, Berthddu, plwyf Llaneurgain, am ei dwyllo, ac yr oedd yr achos yn tynu sylw mawr ar y pryd. Tystiolaethwyd fod "John Edwards, diweddar o Blwyf Llanelwy, wedi twyllo Edward Pierce am ei arian y 31 dydd o Mai, yn anghyfreithlawn, gwybyddus, a bwriadol; cymerodd arno wrth Edward Pierce ei fod ef wedi cael ei roddi yn Ffynnon Elian, ac y deuai rhyw ddrygau ac aflwyddiant dirfawr arno; ond y gallai efe attal y drygau hyn, trwy dynu ei enw allan o'r Ffynnon, os talai efe bymtheg swllt iddo. A thrwy y chwedl ffuantus hon, derbyniodd John Edwards gan Edward Pierce swm o arian, sef pedwar- swllt-ar-ddeg a chwe'cheiniog, a hyny trwy dwyll a rhith." Ceir adroddiad manwl am y prawf a'r tystiolaethau, &c., a dyma y diwedd:"—Y Prif-ynad dysgedig, wrth symio y cwbl i fyny, a sylwodd lawer ar ysgelerder y bai, ac a ail-adroddodd y tystiolaethau, gyda medr a hyawdledd. Y Rheithwyr wedi ymgynghori am ychydig fynydau, a farnasant John Edwards yn euog. Yna fe'i danfonwyd yn ol, gan ei orchymyn i gael ei ddwyn i dderbyn ei ddedfryd y dydd canlynol. Barnodd y Llys fod ei drosedd yn haeddu alltudiaeth (transportation), ond wrth ystyried. mai y troseddiad cyntaf iddo ydoedd, a'i fod wedi ei garcharu er y Brawdlys diweddaf, hwy a'i barnasant ef i gael ei garcharu yn mhellach am ddeuddeng mis."

Wedi i'r Methodistiaid gychwyn achos yn y gymydogaeth hon, ac wedi casglu ychydig nerth, un o'r pethau cyntaf a wnaethant ydoedd crynhoi eu galluoedd yn nghyd i drefnu ymosodiad cryf ar dwyll a honiadaeth Ffynon Elian. Gwnaeth y ddeadell fechan ei rhan yn wrol i ddi- noethi y twyll, a dengys hanes yr ymgyrch fod y Method-