Tudalen:Myfyrdod mewn mynwent - ar fesur a elwir Diniweidrwydd (IA wg35-2-1589).pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

34 Clywaf chwerw waedd y weddw:
O, fe fu farw mhriod mwyn;
A'i roi mewn daear, mawr yw ngalar;
Am fy nghymmar mae fy nghwyn,
Megis dyfnion ddwys archollion
I fy nghalon yw fy nghur.
Darfu ammod dyddiau mhriod,
Mwy na'n bod, oedd imi'u bur."
O, bydd gysurus, weddw alarus
A diddanus yn dy Dduw:
Fe ŵyr dy gyflwr: mae dy Achubwr
I ti'n farnwr eto'n fyw.—

35 Daethum weithian, wedi'r cyfan,
I le dyddan dan law Duw,—
Do, i'r llanerch y darllenir,
A rhybuddir y rhai byw
I ochelyd llwybrau ynfyd;
I 'mroi'n ddiwyd am y rhan dda;
A thrwy amynedd hyd y diwedd,
Am y rhinwedd a'u mawrhâ:
Ac y bygythir y rhai anwir,
Mai hwy a gospir am eu gwaith,
Ac y bydd y duwiol yn drag'wyddol
Gadwedigol wedi ei daith.




DIWDEDD



Argraffwyd gan M. Jones, Caerfyrddin.