eto. Cafodd fantais o hanner modfedd i ymestyn. Teimlai ei bysedd linyn yn crogi oddi ar y bach. Gafaelodd ynddo. Yr oedd rhyw bwysau wrtho. Tynnodd Nansi ef i fyny fel pe bai'n tynnu pysgodyn o ddŵr. Gwingodd ei hun allan o'r hen gloc â'r llinyn yn dynn yn ei llaw. Ac yng nghynffon y llinyn yr oedd llyfryn bychan. Trodd y tudalennau. "O'r diwedd," meddai yn uchel a'i chalon yn curo fel morthwyl. Ie, dyddlyfr Joseff Dafis ydoedd, yn union fel y dywedodd Abigail Owen amdano. Ni fuasai neb wedi ei ddarganfod heb wybod ymha le i chwilio amdano. Hawdd gweled nad dyddlyfr cyffredin mohono. Yr oedd cyfeiriadau at bethau ynddo am gyfnod o amryw flynyddoedd.
"Rhaid cuddio hwn yn ofalus, hyd nes y caf gyfle i'w chwilio yn drwyadl mewn lle diogel," ebe Nansi. "Bydd Tom Ifans yn ôl yn union."
Ar y gair cyrhaeddodd Tom, ac yr oedd Nansi'n falch fod ei hymchwil ar ben cyn iddo ddod ar ei thraws. "Yr wyf wedi cael modur," meddai, "i fyned i lawr i Sarnefydd, ac yno cawn hysbysu'r heddlu.
Aethant allan cyn gynted ag y gallent ac i'r modur â hwy. Modur un o'r cymdogion o'r hafotai ydoedd ac yn digwydd bod ar ei ffordd i Sarnefydd pan ataliwyd ef gan Tom.
Er nad oedd y siwrnai yn hir, ac er y gwyddai Nansi fod y dyddlyfr yn berffaith ddiogel yn ei gwisg, ni allai beidio â theimlo â'i llaw amdano bob yn ail munud.
Wrth fynd i lawr heol y dref, gwelai fodur yn sefyll ar ochr yr heol, a digwyddodd i'w llygaid ddisgyn ar ddyn yn sefyll gerllaw iddo yn ysmygu'n hamddenol. "Y lleidr," meddai Nansi'n sydyn a dirybudd. Heb yn wybod iddi yr oedd ei llais yn uchel.
"Ymhle?" gofynnai'r cymydog.
"Wrth y modur ar y chwith yna," meddai Nansi yn wyllt. "Rhowch eich pennau i lawr," ebe'r gŵr caredig, "a chofiwch rif y modur. Byddwn yng ngorsaf yr heddlu cyn pen dau funud."