os dim, cydymdeimlad a ddangoswyd gan y Morusiaid at rai llai ffodus na hwy, a hwythau ar ben eu digon.
"Yn awr, Nansi, y cam nesaf yw cael gafael ar yr ewyllys cyn i gynnwys y dyddlyfr yma ddod i glustiau William Morus."
"Dyma lle y deuwch chwi i mewn, nhad," ebe Nansi. "Nis gwn i ond y peth lleiaf am ochr gyfreithiol y busnes.
"Gwyddoch yn dda fy mod yn barod i helpu. Yn gyntaf oll, rhaid i ni gael yr ewyllys i'n dwylo."
"Ie, felly awn i Benyberem bore yfory. Awn i ariandy'r Maes. Gofynnwn am yr ewyllys, a dyna ni," ebe Nansi'n siriol.
Chwarddodd Mr. Puw at eiddgarwch ei ferch. "Na," meddai, "nid yw lawn mor rwydd a hynyna chwaith. Dichon iawn y bydd raid i ni gael caniatâd swyddogol i agor bocs Joseff Dafis."
"O," ebe Nansi, "ni chofiais am hynny. Ond yr ydych chwi yn siwr o gael yr awdurdod hwnnw."
"Wel, y mae'n bosibl y gallaf. Bydd yn hawdd i mi ddweud mai gweithredu dros Besi a Glenys y byddaf. Bydd yn berffaith iawn imi ddweud hynny gan imi addo eu cynorthwyo."
"Yr wyf yn siwr y daw popeth fel y gobeithiwn," meddai Nansi'n frwdfrydig, "caiff y perthynasau tlawd yr arian, a bydd y Morusiaid heb ddim. Caiff Abigail Owen bob cymorth meddygol posibl, a bydd digon i Besi a Glen a'r lleill tra byddant byw.
"Peidiwch gobeithio gormod," cynghorai ei thad, "gall rhywbeth nas gwyddom amdano ddod i chwalu ein gobeithion. Mae'n bosibl na bydd yr ewyllys yn y bocs wedi'r cyfan. Ni wyddom ychwaith sut y rhannodd Joseff Dafis ei arian ynddi. Credaf mai'r peth gorau yw i chwi beidio sôn gair wrth y genethod hyd nes byddwn yn hollol sicr o'n pethau.
"O'r gore, nhad," ebe Nansi, wrth droi am y grisiau "yr wyf fi yn teimlo'n ffyddiog iawn mai fel y tybiwn y