sydd yn yr ewyllys, oddi gerth cyfeiriad beth i'w wneuthur a'r gweddill sy'n aros. Ar ôl setlo ei ddyledion personol a'r trethi ar yr ystad, bydd rhyw ganpunt yn weddill. Gedy y rhain i fudiadau dyngarol yn Nhrefaes yn symiau mân o ddeg ac ugain punt yr un.
"Felly," ebe Mr. William Morus, yn siarad am y tro cyntaf, a thynnodd y cryndod yn ei lais bob llygaid arno, "ni adawodd yr un ddimai i ni."
"Ofnaf mai felly y mae," ebe Mr. Puw, mewn llais isel. "Ond nid felly y mae i fod," meddai yntau drachefn. "Prin y deallwch yr amgylchiadau. Mae yn rhaid i mi gael arian.
"Mae yn ddrwg gennyf, Mr. Morus," atebai Mr. Puw, "ond fel yna yn union y mae'r ewyllys. Nid myfi a'i gwnaeth, ac ni allaf eich helpu."
"Brâd!" llefai Gwen, a throdd ei hwyneb fflamgoch at Nansi. "Bu gennych chwi ran yn y gwaith hwn?"
"Do, gwneuthum lawer ynddo," ebe Nansi'n ddiymdroi.
"Fe dorrwn yr ewyllys. Fe'i gwrthbrofwn," ebe Mrs. Morus. Yr oedd ei llais fel corwynt yn yr ystafell fechan a safai ar ei thraed a'i dwyfraich ar led.
"Fel y mynnoch, madam," ebe Mr. Puw yn dawel, "ond os cymerwch fy marn i, gwastraff ar amser ac arian fydd dwyn yr ewyllys i'r llys. Gofynnwch i'ch cyfreithiwr eich hun beth yw ei farn.'
"Mr. Puw sydd yn iawn," meddai'r cyfreithiwr heb i neb ofyn iddo. "Nid oes yr un amheuaeth nad ydyw yn hollol iawn."
"Ho, felly," ebe Mrs. Morus, erbyn hyn yn hollol ddilywodraeth. "Dyna eich barn chwi aie? Os dyna hynny a wyddoch am y ddeddf, nid oes angen eich gwasanaeth arnom. Gwell inni gyfreithiwr arall, mi dybiaf, ac wedi i ni gael un a ŵyr fwy na chwi, fe ymladdwn yr ewyllys yna i'r eithaf."
Cododd a cherddodd yn rhwysgfawr o'r ystafell. Dilynwyd hi gan Mr. Morus â'i ben i lawr. Ond codai