ffyrnig ar Nansi, "Nid wyf wedi gorffen gyda chwithau ychwaith. Cewch chwithau ddioddef."
Ni atebodd Nansi yr un gair. Er fod ei gwaed yn berwi, llwyddodd i wenu'n hamddenol, a ffyrnigai hyn y ddwy chwaer fwy na dim. Talodd Gwen y teirpunt a cherddasant allan o'r siop.
Byrlymiai'r dagrau i lygaid geneth y siop. Gafaelai'n dynn yn llaw Nansi gan ddiolch iddi.
"Ni fedraf byth ddiolch i chwi," meddai, mewn llais crynedig. "Ni fuasai neb arall wedi sefyll trosof fel yna. Buaswn yn sicr o golli fy lle onibai amdanoch chwi."
"Na hidiwch yn awr," atebai Nansi, "mae'r cwbl trosodd yn awr. Gwelais Gwen Morus yn taro'r peth i lawr, ac yr oedd yn rhaid i mi ddod ymlaen i gadw chwarae teg i chwi.'
"Ofnaf y gwnewch elynion i chwi eich hun wrth fy amddiffyn," ebe'r eneth."
"Peidiwch poeni am hynny. Ni fu'r ddwy chwaer erioed yn gyfeillion mawr i mi.'
"Efallai hynny. Ond welsoch chwi wyneb yr hynaf o'r ddwy? Gellwch fentro y ceisiant eu gorau i dalu yn ôl i chwi ryw ffordd neu'i gilydd."
"Gadewch iddynt geisio," gwenai Nansi, "os bydd hynny rywfaint o gysur iddynt. Mae genethod yr ysgol wedi hen arfer â'u bygythion, a phrin neb yn cymryd yr un sylw ohonynt.
Ni feddyliodd Nansi lawer am y peth, ond gan fod llawer o'r dyrfa yn y siop yn dal i syllu arni, a hynny'n annymunol ganddi, prysurodd allan o'r siop, a phenderfynodd yr elai adref drwy'r parc.
"Mae fy ngwaed yn berwi bob tro y meddyliaf am y Morusiaid yna yn cael arian Joseff Dafis," meddai wrthi ei hun, "yn enwedig pan gofiaf cymaint yw angen Besi a Glenys. Yr oedd ymddygiad Gwen at eneth y siop yn warthus."
Croesodd Nansi'r parc yn gyflym. Arhosodd ennyd wrth y llyn ac o edrych ar hyd y llwybr gwelai Gwen a