"A oes gennych ryw syniad ymha le y gallasai fod wedi ei chuddio?"
"Dim o gwbl. Buasai'n dda gan fy nghalon pe gwypwn. Mae fy mrawd a minnau yn hollol barod i gynnig gwobr sylweddol i bwy bynnag a'i darganfyddo.
Gofynnodd Nansi amryw o gwestiynau eraill ond nid oedd y ffermwr yn alluog i roddi unrhyw wybodaeth o fudd iddi. Yn siomedig o'r braidd, trodd Nansi ei chamrau i gyfeiriad Penyberem. "Nid oes dim lwc imi heddiw," meddai wrthi ei hun, fel y dynesai at y dref. "Gobeithio y byddaf yn fwy llwyddiannus yn y lle nesaf yma."
Ar ôl cyrraedd Penyberem holodd Nansi ei ffordd i dŷ'r ddwy hen ferch. Cafodd eu bod yn trigo yng nghwr pellaf y dref. Cartref pur syml oedd ganddynt, ac ôl gofal cariadus arno. Ni ellir dweud fod golwg dlawd arno, ond prin iawn oedd y dodrefn oddi mewn.
Cafodd fod y merched gartref a derbyniodd bob croeso ganddynt. Treuliodd awr gron yn eu cwmni bron heb yn wybod iddi. Ond er holi a chwestiyno, methodd yn lân â chael a dybiai fyddai o gynorthwy iddi i ddarganfod yr ewyllys goll.
Credai'r ddwy, fel y lleill, y bwriadai Joseff Dafis gadw'r Morusiaid allan o'r ewyllys. Yr oeddynt yn sicr yn eu meddwl hefyd y deuent hwy i mewn am gyfran o'r eiddo, gan iddo addo mor fynych na byddent byth mewn angen wedi iddo ef eu gadael. Weithiau tybient mai chwarae un o'i driciau cellweirus â hwynt ydoedd, ond ni allant goelio y gallai fod mor greulon â hynny, a hwythau wedi bod mor garedig tuag ato ac mor ofalus ohono. Yr oedd yn hawdd ganddynt gredu ei fod wedi gwneuthur ei ewyllys, a'i fod wedi ei chuddio yn rhywle'n ddiogel. Yr oedd y ddwy hen ferch mor syml eu cymeriadau ac mor onest yn mynegi eu meddyliau fel y tynnodd ein ditectif ryw gymaint o gysur oddi wrthynt. Yr oedd o leiaf, yn berffaith sicr ei hun, fod ewyllys arall yn rhywle. Ond ymhle? Ni allai'r ddwy hen ferch