am foment ac yna cerddodd i mewn. Y cyntaf peth y disgynnodd ei llygaid arno yn y gwyll oedd truanes yn gorwedd yn swp ar soffa. Llamodd cydymdeimlad parod Nansi i'w chalon ar unwaith. Yma yr oedd Abigail Owen, mewn hen siôl garpiog, a'i hwyneb curedig yn llawn poen. Trodd yr hen wraig ddau lygad pŵl ar yr eneth fel yr agoshai ati. Safodd Nansi uwch ei phen am ennyd.
"Nansi Puw ydwyf fi, ac yr wyf wedi dyfod i'ch helpu Miss Owen," meddai'n dyner.
Trodd Abigail yn boenus ar y soffa i'w gweled yn well, a daeth rhyw syndod plentynaidd i'w hwyneb.
"Wedi dyfod i fy helpu?" meddai, "ni feddyliais i erioed y deuai neb i ymholi am yr hen Abigail byth mwy."
"Arhoswch chwi am funud," meddai Nansi'n siriol. "Gadewch i mi'n gyntaf drefnu'r clustogau yna yn fwy esmwyth i chwi."
Symudodd Nansi yr hen wraig. Gwnaeth y gorau o'r gorchuddiau sâl oedd ar y soffa, a gosododd hi i orwedd lawer yn esmwythach nag yr oedd cynt.
"A fu'r meddyg yma yn eich gweld?" gofynnai Nansi. "Fu neb yma. Fu neb yn agos ataf," ebe Abigail gan ochneidio, "gorweddwn yma yn dyfalu pa bryd y deuai'r diwedd arnaf." Bu'r hen wraig yn cwynfan wrthi ei hun am ychydig. "Rwy'n mynd i oed," meddai, "ac ni byddaf byw yn hir eto
"Na, na," ebe Nansi, mor siriol ag y medrai, wrth weld bod yr hen wraig yn torri ei chalon, "Byddwch fyw flynyddoedd eto. Fedrwch chwi gerdded rhywfaint? A ydych chwi wedi torri eich clun?"
"Gallaf gerdded ychydig, ond nid heb boen dirfawr." "Felly nid yw eich clun wedi torri," ebe Nansi gyda gollyngdod. "Beth am eich ffêr. Nid oes gennych gadach arno. Gadewch i mi roi un i chwi."
"Y mae cadach gwyn yn y cwpwrdd yna," ebe Abigail wrthi, gan bwyntio i gornel yr ystafell.