Abigail, ond gwyddai mai ffolineb fyddai dywedyd hyn wrthi. Gwaeth yr hen wraig mor gysurus ag oedd bosibl. Rhoddodd bopeth yn hwylus o fewn ei chyrraedd. Cerddodd yn ysgafndroed i Benyberem, ac wedi iddi gael cwpanaid o dê tra'n aros am y 'bus, aeth adref â'i chalon yn ysgafnach na bu ers dyddiau.
"Ni ddywedaf air am hyn wrth Besi a Glenys, hyd nes caf wybod mwy," penderfynai Nansi.
Yn y 'bus ar ei ffordd adref trodd drosodd a throsodd yn ei meddwl holl ffeithiau'r achos. Yr oedd yn awr yn berffaith sicr o un peth. Nid oedd gronyn o amheuaeth nad oedd yr ewyllys wedi ei gwneuthur. Yn ôl Abigail yr oedd wedi ei rhoddi mewn lle diogel ac yr oedd manylion am y lle hwnnw yn sicr yn y dyddlyfr. Yr oedd Joseff hefyd yn ddiddadl wedi dweud wrth Abigail ymha le yr oedd y dyddlyfr i'w gael, ond yr oedd yr hen wraig wedi anghofio beth ddywedodd wrthi. "Yng nghloc y teulu y cuddiodd Joseff Dafis y dyddlyfr," rhesymai Nansi, "neu paham y soniodd Abigail amdano o gwbl?"
Ond er y wybodaeth newydd oedd ganddi yn awr, nid oedd ei llwybr lawer rhwyddach. Y cwestiwn yn awr oedd sut i fynd ymlaen ymhellach. Y cam nesaf wrth gwrs oedd chwilio'r cloc, ond haws dweud na gwneud. Os yn nhŷ'r Morusiaid yr oedd y cloc o hyd, yr oedd ei archwilio allan o'r cwestiwn, yn arbennig wedi'r anghydfod diwethaf â Gwen a Phegi. Nid oedd yn annhebygol chwaith nad oedd y Morusiaid wedi cael gafael ar y dyddlyfr yn barod, ac os felly gellid ffarwelio ag unrhyw obaith i ddod o hyd iddo. Ie, ond pe buasai'r Morusiaid wedi dod o hyd iddo, ni fuasent yn pryderu ynghylch yr ewyllys. Na, os rhywbeth yr oedd yr hen Joseff wedi cuddio'r dyddlyfr yn y cloc yn y fath fodd fel na allent ddod o hyd iddo, heb wybod yn union yn lle i chwilio amdano.
"Y mae'r dyddlyfr yn y cloc o hyd," meddai Nansi dan ei dannedd, "ac arnaf fi mae'r cyfrifoldeb i ddod ag ef i'r golwg."