Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deimladol, garuaidd serchus, siriol hon yn elfen bwysig yn ei boblogrwydd. A pha ryfedd, oblegid mae yn elfen gydnawsiol iawn ag anianawd yr efengyl.

Y Parch. William Hughes yw gweinidog Bethel, Glan-y-mor, yn barhaus. Cefais oedfa yno. Yr oeddynt wrth y gorchwyl, er's misoedd, o adgyweirio y capel. Gwneid capel newydd bron o'r hen. Dysgwylid iddo fod yn barod ddechreu Ionawr, 1886. Yr oedd adranau gorphenedig o'r gwaith yn arwyddo y byddai y capel yn hardd a chyfleus ar ei orpheniad. Cyfrifid i'r treulion fod oddeutu deunaw cant o bunau. Yn y Parch. William Hughes ceir engraifft neillduol o un llwyddianus yn y weinidogaeth. A barnu yn ol y dull cyffredin, y mae ei lwyddiant gweinidogaethol nodedig yn ddirgelwch. Wrth esbonio poblogrwydd a ffyniant gweinidog yn gyffredin, cyfeirir at ryw ddoniau arbenig yn y person. Ond wrth esbonio ei fri ef, ni ellir cyfeirio at unrhyw ddoniau neillduol yn gor-ddysgleirio, ac hawdd eu canfod ynddo. Os edrychir am ddoniau llais, ni cheir ond parabl cystal a'r cyffredin; canys â genau cil-agored y llefara. Os dysgwylir cael ganddo feddylddrychau praff-aruchel, bydd y dysgwyliad yn ofer; tra nad yw porthi y bobl a phethau o'r fath yn un ymgais ganddo. Os mwyneiddiwch ysbryd a thynerwch teimlad fyddant yn wrthddrychau dysgwyliad ynddo, ceir yn lle hyny grasder parablol, a threm wyneb-sych. Os dysgwylir cael ynddo ryw gyfrwysder i drin a thrafod y bobl, ni ellir darganfod dim o'r fath. Yn sicr y mae llwyddiant Mr. Hughes, yn ol pob rheol gyffredin mesuroniaeth weinidogaethol, yn ddirgelwch. Ac eto, wedi ystyriaeth bwyllog,