Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dal i fyny gan fân frigau. Adroddid fod golwg ddyeithr ar y syrthiedig yn dyfod i'r lan o'r gabolach fawndirol. Cyffrodd hyn Dafydd gan ysbryd dial, ac nid hir y bu cyn cael gafael ar y bachgen, awdwr y gyflafan. A phan oedd y troseddwr ieuanc o dan y gurfa, dyma ei dad yn prysuro i'w amddiffyn, a bu yn helynt blin.

Mae Mali Roland, y Gwyndy, hen chwaer dduwiol a gyfanedda gerllaw y Plas Hen, yn dymuno ei chofio at deulu William Bowen, Yiow, Washington Territory. Adroddai cymydog wrthyf fod yr hen chwaer uchod yn nodedig am ei chrefyddolder; a'i bod yn enwog am roi hwyl i'r pregethwr os caffai ddigon o rad ras yn y bregeth. Meddyliai Mali lawer o deulu Mr. Bowen fel pobl grefyddol, pan y preswylient gerllaw iddi.

PENOD XX.

Yn Nghwm Rhymni.

Y lle pwysicaf yn y Cwm hwn ydyw Rhymni. Saif y pentref hwn gerllaw afon Rhymnwy, yn nherfyniad cledrffordd Rhymni, yn gyfagos i'r cysylltiad a Brycheiniog a Morganwg, dwy filldir a haner i'r gogledd o Dredegar. Y mae gweithiau haiarn yma, a ffwrneisiau wedi eu hadeiladu ar y cynllun Aiphtaidd, mewn cadernid mawr.

Gelwais gyntaf yn Pontlotyn, yr hwn le a saif yn nghwr isaf y pentref. Bugail yr eglwys Fedyddiedig yma yw y Parch. J. P. Williams, Ph. D. Mae efe wedi llafurio yma er's blynyddau meithion. Anfynych y ceir