Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

minau, wedi tipyn o ddadl feddyliol, a benderfynais fyned ar draed hefyd, yn hytrach na chyda'r cerbyd cyhoeddus, er fy mod yn teimlo yn flinedig ar ol llafur y Sabboth. Yr hyn a droes y ddadl yn ffafr y cerdded yn benaf oedd, y dybiaeth y celwn well manteision i weled y wlad, ac i fyfyrio. A dyma fi yn awr yn cychwyn yn araf ac hamddenol, gan sylwi a chraffu. Y mae y ffordd am y tair milldir hyn o Penrhyn-coch i Aberystwyth yn ymdroelli trwy olygfeydd swynol a henafol. Y mae y ffordd yn myned trwy barciau eang y gwyr mawrion. Hardd, yn wir, oedd yr olwg arnynt—y coedydd llydain, talfrig, praff, yn dangos cadernid ymerodrol, a'r creaduriaid gweddgar olygus yn mwynhau eu hunain yn heddychol o dan eu cangenau cysgodol. Gresyn fod etifeddiaethau o'r fath ag sydd yn addurno cymaint fel hyn ar arwynebedd y wlad, yn gysylltiedig a chymaint o anghyfiawnderau, a lethant yn hyllig drigolion y wlad. Er cymaint o hen wladwr ydwyf, nid wyf yn caru y gorthrwm a'r gormes sydd wedi dod i lawr o'r hen oesau, ac am hyny yr ydwyf yn hen wladwr rhyddfrydig-yr ydwyf yn Americanwr ar y pen hwn, yr hyn hefyd ydyw y dosbarth mwyaf goleuedig yn Mhrydain. Wrth i mi gamu yn mlaen ar hyd y ffordd hon, yr oedd parciau y bobl fawrion yn taflu eu cysgodion tywyll dros fy meddwl a'm teimladau, nes y teimlwn yn ddwys dros denantiaid, gwasanaethyddion, a'r werin-bobl, a lethir i'r llawr gan eu perchenogion ffromus, dideimlad a balch. Yr oedd y golygfeydd a gawn ar y fforddolion yn dyfnhau yr argraffiadau hyn. Yr oedd y boneddigion yn chwyrnellu heibio, tra yr oedd y cyffredin bobl yn cilio o'r neilldu, gan wneud